Mae cenhadon adeiladu’n chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Beth yw cennad adeiladu?
Mae cennad adeiladu’n ysbrydoli pobl eraill i ystyried gyrfa yn y diwydiant ac yn rhannu sut beth yw gweithio ym maes adeiladu mewn gwirionedd.
Yn aml iawn, y nhw sy’n cyflwyno pobl ifanc i’r diwydiant adeiladu am y tro cyntaf pan fyddant yn ystyried pa yrfa i'w dilyn yn y dyfodol.
Drwy ennyn diddordeb pobl ifanc yn y cyfleoedd gwych sydd ar gael yn y diwydiant, gall cenhadon annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol.
Beth mae cennad adeiladu’n ei wneud?
Fel cennad, byddech yn mynd i ddigwyddiadau addysgol ar ran Am Adeiladu neu gyflogwyr yn y diwydiant, ac yn cwrdd â phobl ifanc sy’n ystyried eu dewisiadau o ran gyrfa.
Gallech fod yn gwneud y canlynol:
- Ateb cwestiynau a dosbarthu taflenni ar stondin mewn ffair gyrfaoedd.
- Rhoi areithiau a rhannu’ch profiadau o ymuno â’r diwydiant a gweithio ynddo.
- Arwain sesiynau neu weithdai ymarferol er mwyn rhoi syniad i bobl ifanc o fywyd yn y diwydiant.
- Mentora rhywun sy’n dechrau arni.
Pwy sy’n gallu dod yn gennad adeiladu?
Gall unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant fod yn gennad adeiladu. Mae angen i chi fod â diddordeb angerddol mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig a bod yn barod i rannu eich profiadau ag eraill.
P’un a ydych yn brentis yn eich blwyddyn gyntaf neu’n gyfarwyddwr cwmni, byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i helpu mwy o bobl i weld y gwahanol brofiadau sydd ar gael yn ein sector.
Pam dod yn gennad?
Fel cennad adeiladu, byddwch yn cael cyfle i wneud y canlynol:
- Ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn y diwydiant adeiladu.
- Trosglwyddo’ch sgiliau, eich gwybodaeth a’ch brwdfrydedd i newydd-ddyfodiaid posibl er mwyn helpu i gau’r bwlch sgiliau yn y diwydiant.
- Datblygu’n bersonol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhai sy’n dechrau arni.
- Hyfforddi i ddatblygu’n broffesiynol, naill ai ar-lein neu yn rhywle sy’n agos at eich cartref.
Ein partneriaeth â STEM
Rydym yn cynnal rhaglen cenhadon ar y cyd â Dysgu STEM.
Dysgu STEM yw’r darparwr mwyaf yn y DU sy’n rhoi cymorth addysg a gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae ganddo dros 30,000 o genhadon a 19 o hybiau ledled y DU sy’n cynnig cymorth, cyfleoedd ac arbenigedd lleol.
Mae angen i bob cennad adeiladu newydd gofrestru â STEM. Mae ei lwyfan digidol yn siop-un-stop ar gyfer hyfforddiant, digwyddiadau’r diwydiant, adborth ac adnoddau Am Adeiladu.
Eisoes yn gennad adeiladu?
O fis Gorffennaf 2020, bydd angen i’n holl genhadon presennol gofrestru â Dysgu STEM er mwyn parhau i drefnu i fynd i ddigwyddiadau a chael mynediad at adnoddau a hyfforddiant Am Adeiladu.
CYSYLLTU Â NI
Heb ddod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano? E-bostiwch y tîm cenhadon yn CA@citb.co.uk