Gwneud cais i fod yn gennad adeiladu
Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn bod yn gennad adeiladu. Rydych chi yn y lle iawn i gael gwybod popeth sydd angen i chi ei wybod am wneud cais.
Rydyn ni angen i weithwyr proffesiynol brwd a brwdfrydig, fel chi, fod yn wyneb y diwydiant a rhannu eich profiadau cadarnhaol o'r diwydiant adeiladu gyda newydd-ddyfodiaid posibl sy’n ystyried eu dewisiadau o ran gyrfa.
Sut rydw i'n ymgeisio?
Mae rhaglen cenhadon Am Adeiladu’n cael ei rhedeg ar y cyd â Dysgu STEM.
Mae’n hawdd cofrestru:
- I fod yn gennad adeiladu STEM, cofrestrwch drwy'r ddolen isod.
- Ar ôl cofrestru, bydd angen i chi fynd i’ch proffil Cennad STEM newydd i ymuno â’n cynllun STEM sy’n benodol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ewch i Profile > Skills & Qualifications > Edit ac o dan y pennawd ‘schemes participation’ chwiliwch ‘construction’ a dewiswch ‘Construction & Built Environment’ er mwyn i ni allu parhau i’ch cefnogi â’r wybodaeth a’r adnoddau diweddaraf i’ch galluogi chi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl a all ymuno â’r sector.
- Pan fyddwch yn cyrraedd ‘scheme participation section’ dewiswch gymryd rhan yn y cynllun ‘Construction and the built environment’ a thicio’r blwch i nodi eich bod yn fodlon i’ch manylion gael eu rhannu. Mae’n bwysig eich bod yn ticio’r blwch hwn oherwydd bydd yn golygu ein bod yn cael anfon newyddion atoch am adnoddau, cyfleoedd, digwyddiadau a hyfforddiant diweddaraf Am Adeiladu.
- Bydd angen i chi gael Archwiliad Datgeliad Manwl yn rhad ac am ddim fel rhan o’ch proses gofrestru. Yn dibynnu a ydych chi wedi cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (neu gyfatebol yn yr Alban) yn barod, gallai gymryd hyd at dair wythnos i’w brosesu.
- Pan fyddwch chi wedi cofrestru, bydd angen i chi gwblhau rhywfaint o hyfforddiant cynefino yn ogystal ag asesiad diogelu. Bydd eich sesiwn cynefino yn egluro sut y gallwch chi reoli eich ymrwymiadau eich hun a gofyn am adnoddau drwy eich dangosfwrdd Dysgu STEM personol.
- Pan fyddwn yn fodlon â’ch Archwiliad Datgeliad Manwl gallwch ddechrau trefnu mynd i ddigwyddiadau fel cennad adeiladu.