Facebook Pixel

Coleg

Dal ati i feithrin sgiliau: ble allai’r coleg eich arwain chi?

Pam mynd i’r coleg?

Gall colegau a darparwyr hyfforddiant eich paratoi ar gyfer llwybr gyrfa penodol neu gymwysterau lefel uwch. Drwy addysg bellach, gallwch feithrin sgiliau technegol, galwedigaethol neu academaidd mewn amrywiaeth eang o bynciau. Mae'n debyg y bydd sawl coleg neu ddarparwr hyfforddiant yn eich ardal leol.

Mae llawer o golegau a darparwyr hyfforddiant yn cynnig cyrsiau sy’n gysylltiedig yn  uniongyrchol ag adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, fel gosod brics, gwaith saer ac asiedydd, peirianneg sifil, sgiliau treftadaeth a chrefftau technegwyr, ynghyd â chyrsiau goruchwylio a rheoli. Maen nhw hefyd yn debygol o gynnig cyrsiau a allai eich helpu i symud i feysydd eraill yn y sector megis gweinyddu, cyfrifyddiaeth, y gyfraith, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD) a TG. Gall colegau a darparwyr hyfforddiant hefyd gynnig cyrsiau Safon Uwch a Mynediad fel cam i'r brifysgol.

Beth bynnag yw eich nod o ran gyrfa, mae'n debygol bod cwrs coleg ar gael i’ch helpu i gyrraedd yno.

Ar gyfer hyfforddiant mewn agweddau mwy penodol ar adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, efallai y bydd angen i chi droi at ddarparwr hyfforddiant arbenigol, a allai fod ymhellach i ffwrdd. 

Ar gyfer pwy mae’r coleg?

Mae addysg bellach ar gyfer unrhyw un sydd wedi gadael yr ysgol. Gallwch fynd i'r coleg i barhau i astudio'n syth ar ôl gorffen eich TGAU, neu’n nes ymlaen yn eich bywyd er mwyn dilyn diddordebau newydd neu wella eich rhagolygon o ran gyrfa.

Beth mae cwrs yn ei gynnwys?

Mae cyrsiau coleg yn amrywio o ran hyd, o wythnosau i flynyddoedd, yn dibynnu ar y cymhwyster ac a ydych yn dewis astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser.

Mae llawer o ddewis ar gael. Efallai y byddwch am astudio yn y cnawd neu ar-lein drwy ddysgu o bell, neu ddewis pwnc ymarferol yn hytrach na chanolbwyntio'n gyfan gwbl ar ddysgu academaidd, yn yr ystafell ddosbarth. Bydd eich darparwr yn siarad â chi am yr opsiynau sydd gennych o ran gwahanol fathau o astudio.

Os ydych chi'n dechrau arni, neu'n awyddus i newid eich gyrfa, gall cyrsiau coleg fod yn fan cychwyn. Bydd gan bob coleg a darparwr hyfforddiant dimau cefnogi sy’n gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar y cyrsiau sydd ar gael i chi ac sydd fwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau personol.

Beth sy’n digwydd ar ôl fy nghwrs?

Ar ôl i chi orffen cwrs coleg neu hyfforddiant, gallech barhau i astudio am gymwysterau lefel uwch neu chwilio am swydd.

Mae cwmnïau adeiladu yn hysbysebu swyddi gwag ar eu gwefannau eu hunain ac ar fyrddau swyddi ar-lein fel Indeed a Totaljobs.

Os nad ydych chi wedi cael profiad gwaith yn barod, mae'n syniad da cael hynny cyn gwneud cais am swydd ym maes adeiladu, gan fod llawer o gyflogwyr yn ystyried hyn yn hanfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau hyfforddi a chyrsiau coleg yng Nghymru, ewch i wefan Gyrfa Cymru

Faint mae'r coleg yn ei gostio?

Bydd hyn yn amrywio o ddim o gwbl hyd at sawl mil o bunnoedd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol chi. Bydd cost unrhyw gwrs a ddarperir gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant yn dibynnu ar eich oed, lefel eich cymwysterau presennol ac amrywiaeth eang o ffactorau eraill a fydd yn cael eu hystyried.  Gan fod y cyllid weithiau’n gymhleth ar gyfer cyrsiau a hyfforddiant, dylech bob amser siarad â’r timau cymorth yn y coleg i ofyn am arweiniad.

Os yw eich cyflogwr yn rhoi eich enw ymlaen ar gyfer hyfforddiant, efallai y byddant yn talu costau'r cwrs ar eich rhan.

Sut ydw i’n dewis cwrs coleg?

Mae colegau a darparwyr hyfforddiant yn cynnig digwyddiadau agored lle gallwch fynd i siarad ag aelodau o staff, ac weithiau â dysgwyr eraill, i gael gwybod am y cyrsiau y maent yn eu haddysgu. Mae gan y rhan fwyaf o golegau a darparwyr hyfforddiant wefannau y gallwch eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am y cyrsiau y maent yn eu cynnig. 

Os nad ydych yn siŵr pa gwrs i'w ddilyn, edrychwch ar y tudalennau swyddi i weld pa gymwysterau y gallai fod eu hangen arnoch i gael y swydd honno.

Os oes sawl coleg a darparwr hyfforddiant yn eich ardal leol, mae'n syniad da ymweld â mwy nag un cyn i chi wneud penderfyniad.

Os yw eich cyflogwr yn rhoi eich enw ymlaen ar gyfer hyfforddiant, mae'n debyg y byddant yn dewis ble byddwch yn mynd.

Os nad oes cyrsiau'n cael eu cynnig yn lleol, ac nad oes angen i'ch hyfforddiant fod yn ymarferol, fe allech chi weld a yw'n cael ei gynnig ar-lein.

Beth yw’r manteision i gyflogwyr?

Drwy ddatblygu eich sgiliau ac ennill cymwysterau penodol sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant, rydych yn gwneud eich hun yn fwy cyflogadwy yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi pobl sydd wedi dangos eu bod yn gallu gweithio’n galed ac sydd wedi cymryd amser i ddysgu sgiliau crefft, neu ddysgu gwybodaeth a fydd yn eu helpu i ragori yn y gweithle.

Os ydych chi wedi bod mewn swydd ers tro ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig eich cefnogi i barhau â hyfforddiant drwy goleg lleol i ehangu eich sgiliau a dod ag arbenigedd newydd i'r tîm.

Ddim yn siŵr am gyrsiau coleg neu hyfforddiant?

Dysgwch am y canlynol:

Dyluniwyd y wefan gan S8080