Facebook Pixel

Hyfforddeiaethau adeiladu

Byddwch yn barod am waith: hyfforddeiaethau - popeth y mae angen i chi ei wybod

Beth yw hyfforddeiaeth adeiladu?

Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae hyfforddeiaethau ar gael.

Paratoi ar gyfer y byd gwaith yw pwrpas hyfforddeiaeth. Mae’n gwrs byr sy’n rhoi cyfle i chi ddangos eich galluoedd ac yn eich galluogi i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer prentisiaeth neu swydd

Mae hyfforddeiaethau adeiladu yn gyfuniad o ddysgu a phrofiad gwaith, ac maent yn llwybr defnyddiol i’r diwydiant, lle mae profiad gwaith blaenorol yn cael ei werthfawrogi, ac weithiau’n hanfodol. Darllenwch fwy am y gwahaniaeth rhwng hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.

Ar gyfer pwy gafodd hyfforddeiaethau eu cynllunio?

Mae hyfforddeiaethau'n ffordd wych o roi cychwyn da i'ch gyrfa ym maes adeiladu. I wneud hyfforddeiaeth y llywodraeth yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid i chi:

  • Bod yn gymwys i weithio yn y DU
  • Bod rhwng 16 a 24 oed (neu rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru)
  • Bod yn ddi-waith a heb fawr ddim profiad gwaith, os o gwbl
  • Dim cymwysterau uwch na TGAU (neu gymhwyster cyfatebol)
  • Bod gennych gymhelliant i weithio.

Os nad ydych chi erioed wedi cael swydd penwythnos neu waith dros y gwyliau, a'ch bod yn ei chael hi'n anodd cael cyfweliad neu swydd â thâl, gall hyfforddeiaethau wella'ch CV gyda phrofiad gwaith perthnasol i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Gall hyfforddeiaethau fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych am roi cynnig ar swydd cyn ymrwymo iddi, efallai wrth i chi astudio ar gyfer cymwysterau yn y diwydiant yn rhywle arall.

Beth mae hyfforddeiaeth yn ei gynnwys?

Lloegr

Mae hyfforddeiaethau'n amrywio yn ôl eich lleoliad. Yn Lloegr, gall hyfforddeiaeth bara unrhyw beth rhwng pythefnos a chwe mis. 

Maen nhw’n darparu:

  • Sgiliau hanfodol nad oes gennych o bosib
  • Cymorth gyda chyflogadwyedd, fel ysgrifennu CVs a cheisio am swyddi, yn ogystal ag ymarfer cyfweliad
  • Profiad gwaith ymarferol i’w ychwanegu at eich CV
  • Cymorth gyda Saesneg a Mathemateg (os oes angen)
  • Hyfforddiant a mentora.

Gallwch drefnu gyda’r cyflogwr weithio ar oriau sy'n addas i'ch anghenion chi a’u rhai nhw. Er y bydd rhaid i chi gwblhau nifer penodol o oriau o waith go iawn fel rhan o’ch hyfforddeiaeth (100 awr ar gyfer lleoliadau chwe mis fel arfer) gallech gwblhau elfen hyfforddi’r hyfforddeiaeth yn rhan-amser neu’n amser llawn, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Gall gwneud hyfforddeiaethau adeiladu ddigwydd dan do neu yn yr awyr agored, yn dibynnu ar y math o brofiad gwaith. Gallech dreulio amser ar y safle, mewn gweithdy, mewn adeilad cleient, mewn amgylchedd swyddfa neu mewn cymysgedd o'r rhain i gyd.

Os nad oes gennych o leiaf radd TGAU gradd 4 (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Saesneg a Mathemateg, byddwch yn treulio rhywfaint o'ch hyfforddeiaeth yn yr ystafell ddosbarth, i'ch helpu i wella'ch sgiliau a’ch gwneud yn fwy cyflogadwy.

Bydd eich hyfforddeiaeth yn cael ei strwythuro fel ei bod yn addas ar gyfer eich anghenion chi, yn ogystal ag anghenion darparwr eich profiad gwaith. Byddwch yn cael mentor a fydd yn cysylltu’n rheolaidd â chi i sicrhau eich bod yn cael y profiad sydd ei angen arnoch ar gyfer y dyfodol. 

Dysgu mwy am yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn hyfforddeiaeth.

Cymru

Mae strwythur hyfforddeiaeth yng Nghymru ychydig yn wahanol. 

Mae tair lefel o hyfforddeiaeth ar gael i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth iawn yn ôl eich profiad.

  • Ymgysylltu
  • Lefel 1
  • Lefel 2

Ceir lwfans ariannol hefyd o hyd at £50 yr wythnos, ynghyd â lwfans teithio o £5.

I gael gwybod mwy am hyfforddeiaethau sydd ar gael, ewch i wefan Gyrfa Cymru, lle cewch chi fanylion pellach.

Beth sy’n digwydd ar ôl fy lleoliad?

Os yw’r cwmni rydych yn hyfforddi gyda nhw yn cymryd prentisiaid, efallai y byddant yn eich cyf-weld am rôl yn dilyn eich lleoliad. Os nad oes ganddynt swyddi gwag, gallant ddarparu geirda proffesiynol i’ch helpu i wneud cais am brentisiaethau neu swyddi eraill.

Y naill ffordd neu'r llall, byddwch yn gallu ychwanegu eich hyfforddeiaeth at eich CV, er mwyn gwella eich siawns o lwyddo wrth geisio am waith a chreu argraff ar gyflogwyr gyda'ch sgiliau trosglwyddadwy.

Faint mae’r hyfforddeion yn ei gael?

Yn Lloegr, ni fyddwch yn ennill cyflog fel hyfforddai ond byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr ac yn elwa ar gymorth gyrfa am ddim. Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn cynnig talu am eich costau teithio a'ch prydau bwyd.

Yng Nghymru, ceir lwfans ariannol o hyd at £50 yr wythnos, yn ogystal â £5 o gostau teithio, yn dibynnu ar lefel yr hyfforddeiaeth rydych yn ei derbyn.

Ar ôl i chi gwblhau eich hyfforddeiaeth, mae’n llawer mwy tebygol y byddwch yn gallu dod o hyd i waith a dechrau ennill cyflog. Fel prentis, byddech chi’n parhau i ddysgu sut mae gwneud swydd benodol, ond byddech chi’n cael cyflog ar yr un pryd.

Y Llywodraeth sy'n talu holl gostau’r hyfforddeiaeth. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch hawlio cymorth ariannol ychwanegol drwy eich darparwr hyfforddiant. 

Sut mae gwneud cais am hyfforddeiaeth?

Mae hyfforddeiaethau adeiladu yn cael eu cynnig gan gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr. Wrth chwilio am gyfleoedd, gallwch edrych ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal neu mewn lleoliadau ymhellach i ffwrdd o'ch cartref.

Gall cwmnïau adeiladu restru’r hyfforddeiathau sydd ar gael ar eu gwefannau. Mae Gov.uk yn rhestru cyfleoedd yn Lloegr a bydd chwilio am ‘traineeships’ ar Not Going to Uni neu findcourses hefyd yn dangos rhestrau cyfredol.

Mae gan Gyrfa Cymru wybodaeth am hyfforddeiaethau yng Nghymru.

Sut mae eich cyflogwyr yn elwa?

Mae hyfforddeiaethau o fudd i gyflogwyr drwy eu helpu i feithrin perthnasau yn y gymuned. Drwy hyfforddi gweithwyr ifanc mewn sgiliau penodol, maen nhw hefyd yn gallu siapio a manteisio’n llawn ar dalent yn gynnar yn y broses. 

Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr gymaint â rhai’r hyfforddeion, ac maent yn cynnig cyfle i weithwyr presennol wella arweinyddiaeth a rhannu sgiliau.

Nid hyfforddeiaethau yw’r peth i chi?

Gwybod mwy am y canlynol:

 

Dyluniwyd y wefan gan S8080