Facebook Pixel

Prentisiaethau

Beth yw prentisiaeth?

Prentisiaeth yw swydd gyda hyfforddiant, ac mae ar gyfer unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn. Yn ystod prentisiaeth, byddwch yn gweithio gyda staff profiadol ac yn cael cymhwyster drwy gwblhau dysg ymarferol ac academaidd. Bydd eich cyflogwr yn rhoi tasgau i chi eu cwblhau, a bydd darparwr hyfforddiant yn rhoi’r sgiliau damcaniaethol i chi gwblhau’r tasgau hynny.

Fel prentis, byddwch yn cael cyflog wrth ddysgu, felly gallwch gael cymhwyster diwydiant-benodol heb fod angen benthyciad myfyriwr. Byddwch yn gyflogedig yn llawn amser (fel arfer rhwng 31-40 awr yr wythnos), sy’n cynnwys yr amser rydych yn ei dreulio gyda’ch darparwr hyfforddiant. Mae prentisiaid yn cael cyflog, ac, yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol, efallai byddwch hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau.


Mae prentisiaethau adeiladu yn llwybr mynediad gwerthfawr iawn i'r diwydiant.

Mae yna gannoedd o brentisiaethau adeiladu amrywiol, gwerth chweil i ddewis ohonynt. Gallech fod y tu ôl i fwrdd cynllunio, yn datblygu sgiliau rheoli prosiect, hyfforddi fel crefftwr a mwy.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am seiri, gweithwyr gosod brics a phenseiri, ond mae yna hefyd lawer o brentisiaethau ar gyfer rolau nad oeddech efallai wedi’u hystyried. A ydych chi erioed wedi meddwl bod yn simneiwr, yn arbenigwr cadwraeth, yn archeolegydd, neu’n beiriannydd twnnel? Gallwch hyfforddi ar gyfer y rolau hyn a llawer mwy, fel prentis adeiladu.


Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael?

Mae prentisiaeth ganolradd (lefel 2) fel arfer yn cymryd dwy flynedd i’w chwblhau, ond mae lefelau gwahanol o brentisiaethau. Bydd hyd y cwrs yn dibynnu ar eich profiad, cymwysterau cyfredol a’r rôl rydych yn ei ddewis.

Mae’r lefelau gwahanol o brentisiaethau yn golygu y gallwch gael mynediad ar lefel sy’n iawn i chi a symud ymlaen yn eich gyrfa. Y mathau o brentisiaethau yw:

  • Canolradd lefel 2 - cyfwerth â 5 TGAU ar radd 9-4 (A*-C)
  • Uwch - Lefel 3 - cyfwerth â 2 Lefel A, Diploma Lefel 3 neu Fagloriaeth Ryngwladol
  • Lefelau uwch 4, 5, 6 a 7 - cyfwerth â Gradd Sylfaen ac uwch
  • Gradd lefel 6 a 7 - cyfwerth â gradd Baglor neu Feistr.

Bydd gan bob prentisiaeth ofynion mynediad gwahanol a bydd swyddi gwag a hysbysebir yn nodi beth yw'r rhain. Bydd cyflogwyr hefyd yn ystyried profiad gwaith blaenorol a'ch brwdfrydedd a'ch dawn ar gyfer y rôl.

Mae Prentisiaethau yng Nghymru yn newid

O fis Medi 2022 bydd prentisiaethau adeiladu yng Nghymru yn wahanol.

Ewch i wefan Sgiliau i Gymru am fanylion llawn y newidiadau a sut y gallant rymuso dysgwyr gyda mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Gallwch hefyd siarad â’ch coleg lleol neu ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru amdanynt.

A ddylwn i gwblhau prentisiaeth neu fynd i brifysgol?

Cwestiwn da! Mae manteision i gwblhau gradd neu brentisiaeth. Mae gan gyflogwyr barch mawr at y ddau lwybr.

Mae cyrsiau prifysgol sy’n gysylltiedig ag adeiladu yn aml yn canolbwyntio ar astudiaeth ddamcaniaethol, ond mae llawer yn cynnwys profiad ymarferol ar ffurf blwyddyn yn y diwydiant. Os byddwch yn cwblhau prentisiaeth lefel uwch neu radd, bydd eich cymhwyster yn cyfateb i radd israddedig neu radd meistr, ond byddwch wedi cael llawer mwy o brofiad ymarferol.

Prentisiaeth

  • Mae’n cymryd 1 - 5 blwyddyn i’w cwblhau
  • Gallwch ddechrau eich gyrfa’n syth ar ôl gadael yr ysgol
  • Byddwch yn rhannu amser rhwng eich cyflogwr a darparwr hyfforddiant
  • Mae’r pwyslais ar ddysgu sgiliau ymarferol yn ymwneud â rôl benodol
  • Gellir dilyn dros 100 o rolau drwy brentisiaethau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu
  • Byddwch yn cael cyflog wrth i chi ddysgu, heb ffioedd dysgu

Y Brifysgol

  • Mae gradd llawn amser yn cymryd 3 - 4 blwyddyn i’w cwblhau
  • Gallwch wneud cais am swyddi ar lefel uwch ar ôl i chi raddio
  • Byddwch yn treulio amser mewn darlithoedd a seminarau neu ar astudio unigol - neu gall fod trwy ddysgu o bell
  • Mae'r pwyslais ar astudio academaidd, er mae nifer o raddau’n ymwneud ag adeiladu’n cynnig blwyddyn mewn diwydiant
  • Gallwch ddewis o filoedd o gyrsiau, a all arwain at yrfa ym maes adeiladu
  • Byddwch yn talu ffioedd dysgu hyd at £9,520 y flwyddyn yn y DU (cywir fel y mae yn 2021).

Sut wyf yn dod o hyd i gyflogwr?

Er mwyn dod yn brentis adeiladu, bydd angen i chi ddod o hyd i gyflogwr a all ddarparu hyfforddiant yn y gwaith. Gallai hyn fod yn fusnes bach neu fawr, yn gwmni lleol, yn aelod o'r teulu neu'n unigolyn hunangyflogedig.

Os nad oes gennych gyflogwr eto, peidiwch â phoeni. Mae yna lawer o ffyrdd i ddod o hyd i rywun sydd eisiau eich cyflogi fel prentis:

  • Gwnewch gais am brentisiaethau yn Nghymru, Lloegr, neu  Yr Alban
  • Cofrestrwch a llwythwch eich CV ar wefannau swyddi fel Indeed neu Totaljobs, lle byddwch hefyd yn gallu trefnu i gael gwybod am swydd sydd ar gael fel hysbysiad trwy e-bost, a gall cyflogwyr hefyd gysylltu â chi'n uniongyrchol.
  • Edrychwch ar wefannau cwmnïau adeiladu’n unionyrchol i wirio’r adran prentisiaethau/swyddi gwag a dilynwch eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Cysylltwch â'ch coleg lleol, darparwr hyfforddiant arbenigol neu asiantaeth rheoli prentisiaethau i gofrestru eich diddordeb oherwydd efallai y gallant eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr.
  • Gofynnwch i'ch ffrindiau, teulu neu gymdogion i weld a oes ganddynt unrhyw brentisiaethau lle maent yn gweithio.

Wrth siarad â chyflogwyr, rhowch wybod iddynt, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, y gallent gael hyd at £12,000 mewn grantiau gan y llywodraeth neu Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) am eich cyflogi. Bydd hyn yn eu helpu i dalu costau eich cyflogi.

Beth sy’n digwydd wedi i mi orffen fy mhrentisiaeth? 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich prentisiaeth adeiladu, byddwch yn cael cymhwyster diwydiant-benodol.

Efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig swydd llawn amser i chi (ar ei strwythur cyflog) neu gallwch drafod y posibilrwydd o symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch gyda nhw. Wrth gwrs, efallai y byddwch yn dewis edrych yn rhywle arall am waith a chael profiad gyda chyflogwr arall.

Os nad yw'r cwmni y gwnaethoch gwblhau eich prentisiaeth gyntaf ag ef yn gallu darparu'r profiad gwaith cywir i chi ar gyfer cymhwyster lefel uwch, efallai y bydd angen i chi edrych yn rhywle arall i barhau â'ch hyfforddiant.

What happens when I finish my apprenticeship?
Dyluniwyd y wefan gan S8080