Facebook Pixel

Pa rolau sydd ar gael i brentisiaid?

Pa fath o brentis allech chi fod?

 

Image

Mae prentisiaethau’n rhoi cyfle i chi ddysgu sut mae gwneud swydd benodol...tra byddwch yn y swydd! Mae miloedd o brentisiaethau ar gael, i’ch helpu i hyfforddi ar gyfer dros 100 o wahanol rolau yn y diwydiant adeiladu.

Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi clywed am seiri coed, bricwyr a phenseiri, ond mae llawer o brentisiaethau hefyd ar gyfer swyddi nad ydych efallai wedi’u hystyried. Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn simneiwr, yn arbenigwr cadwraeth, yn archeolegydd, neu’n beiriannydd twnelu? Gallwch hyfforddi ar gyfer y swyddi hyn a llawer mwy, fel prentis adeiladu.

Gan fod prentisiaethau’n cael eu cynnig gan gyflogwyr, mae pob cyfle yn gwbl unigryw. Felly ni waeth a ydych chi’n llunio cynlluniau safle, yn prynu tir, yn goruchwylio prosiectau drilio neu’n gweithio gyda pheiriannau trwm, eich profiad chi fydd hwn.


10 o’r prif swyddi adeiladu nad ydych o bosibl wedi’u hystyried

Banner
  1. Pensaer
  2. Ecolegydd
  3. Cynllunydd
  4. Archeolegydd
  5. Syrfëwr
  6. Simneiwr
  7. Saer maen
  8. Peiriannydd sifil
  9. Prynwr tir
  10. Rheolwr safle
CITB 2020

Astudiaethau Achos

Roedd yn braf cael defnyddio fy sgiliau artistig i ddatrys problemau.

Lexxi, Peiriannydd CAD



Darganfod eich swydd berffaith

Dyluniwyd y wefan gan S8080