Facebook Pixel

Gosodwr deunydd inswleiddio ceudod

Mae gosodwyr deunydd inswleiddio ceudod yn gosod deunydd inswleiddio mewn adeiladau, fel atal lleithder, inswleiddio atig ac inswleiddio waliau ceudod. Mae eu gwaith yn helpu adeiladau i gadw eu gwres ac i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae'r rôl yn cynnwys edrych a ydy eiddo’n addas ar gyfer inswleiddio waliau ceudod ac argymell y math gorau i'w ddefnyddio.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

40-45

Sut i fod yn osodwr deunydd inswleiddio ceudod

Mae sawl ffordd o fod yn osodwr deunydd inswleiddio ceudod. Gallwch ddechrau ar eich llwybr gyrfa drwy astudio cwrs coleg, neu brentisiaeth, neu drwy wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech chi ymchwilio i’r opsiynau hyn i fod yn osodwr deunydd inswleiddio ceudod, i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i goleg/darparwr hyfforddiant arbenigol i hyfforddi fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth i’ch helpu i ddod yn osodwr deunydd inswleiddio ceudod, ym maes inswleiddio adeiladu a thriniaethau adeiladu, neu fel gweithredwr ynysiad thermol.

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu’n ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi eisoes brofiad neu gymwysterau mewn maes adeiladu perthnasol, fel bricwaith, efallai y gallwch wneud cais i gyflogwr yn uniongyrchol am waith fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod. Gallech chi ddechrau fel cynorthwyydd dan hyfforddiant i osodwr deunydd inswleiddio ceudod mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod:

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Gweithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun

Cymwysterau


Beth mae gosodwr deunydd inswleiddio ceudod yn ei wneud?

Fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod byddwch yn gyfrifol am helpu i inswleiddio adeiladau er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio ynni’n effeithlon.

Efallai y bydd swydd gosodwr deunydd inswleiddio ceudod yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynnal arolygon cyn gosod i ganfod y dulliau inswleiddio a’r deunyddiau i’w defnyddio
  • Ysgrifennu adroddiadau arolygu ar gyfer cwsmeriaid a rheolwyr
  • Awgrymu ffyrdd o wella’r defnydd o ynni mewn adeilad
  • Cyfrifo faint o le sydd i’w lenwi a faint o ddeunydd inswleiddio sydd ei angen
  • Marcio pibellau ar gyfer gwifrau, awyru a phibellau mewn waliau yn ogystal â selio agoriadau
  • Chwistrellu deunydd inswleiddio drwy dyllau drilio mewn trefn benodol
  • Gwneud yn siŵr bod yr holl frics aer a ffliwiau yn glir
  • Sicrhau bod y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddir yn bodloni’r rheoliadau adeiladu
  • Gwisgo cyfarpar diogelu personol a bod yn ymwybodol o weithdrefnau iechyd a diogelwch
  • Gweithio ar y safle, dan do ac yn yr awyr agored mewn amrywiaeth o adeiladau, gan gynnwys cartrefi, ysgolion, ysbytai ac adeiladau masnachol.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr deunydd inswleiddio ceudod yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gosodwyr deunydd inswleiddio ceudod dan hyfforddiant ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gosodwyr deunydd inswleiddio ceudod hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall uwch osodwyr deunydd inswleiddio ceudod ennill hyd at £45,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr deunydd inswleiddio ceudod: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr deunydd inswleiddio ceudod, gallech gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa fel goruchwyliwr galwedigaethol, amcangyfrifwr neu gontractwr neu is-gontractwr hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gosodwr deunydd inswleiddio ceudod Mae'n gyfrifol am atal lleithder, inswleiddio atig ac inswleiddio waliau ceudod ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Amcangyfrifwr Mae’r gwaith yn golygu cyfrifo cost cyflenwi cynnyrch neu wasanaethau i gleienti...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Contractwr hunangyflogedig Fel contractwr neu is-gontractwr, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gyda’ch cle...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080