Facebook Pixel

Gweithiwr dymchwel

Mae gweithwyr dymchwel yn datgymalu adeiladau a strwythurau anniogel neu segur. Maent yn tynnu'r ffitiadau, yn clirio deunyddiau peryglus ac yn achub unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio, cyn defnyddio offer, peiriannau neu ffrwydron i ddymchwel strwythur.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

42-44

Sut mae dod yn weithiwr dymchwel

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn weithiwr dymchwel, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithiwr dymchwel i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg

I’ch helpu i ddod yn weithiwr dymchwel, gallech ddilyn cwrs coleg, fel Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu, Diploma Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Dymchwel.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Prentisiaeth

Os ydych chi dros 18 oed, gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd gweithiwr dymchwel i’ch helpu ar eich llwybr gyrfa. Os ydych chi o dan 18 oed, gallech chi fod yn brentis gweithiwr peiriannau a symud i hyfforddiant dymchwel pan fyddwch yn 18 oed.

Bydd angen i chi gael 2 - 3 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Efallai y gallwch ddod o hyd i waith fel labrwr adeiladu ac, os ydych chi dros 18 oed, efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i hyfforddi i fod yn weithiwr dymchwel.

Neu, os oes gennych brofiad fel labrwr, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel gweithiwr dymchwel. Efallai y bydd angen i chi gael cymwysterau TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) mewn Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol, i wneud hyn.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithiwr dymchwel. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae sgiliau a rhinweddau dymunol ar gyfer gweithiwr dymchwel yn cynnwys: 

  • Y gallu i weithio’n drylwyr a rhoi sylw i fanylion
  • Gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun
  • Gwybodaeth am fathemateg
  • Gallu cyflawni tasgau sylfaenol ar gyfrifiadur neu gyffelyb.

Beth mae gweithiwr dymchwel yn ei wneud?

Fel gweithiwr dymchwel byddwch yn gyfrifol am helpu i glirio safle yn barod am brosiect adeiladu newydd. Gallai hyn gynnwys gweithio gyda morthwylion, driliau neu ffrwydron.

Mae swydd gweithiwr dymchwel yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:

  • Gweithio’n agos gyda thopmyn dymchwel, sy’n paratoi safleoedd ar gyfer dymchwel.
  • Tynnu ffitiadau, drysau a ffenestri, datgymalu strwythurau’r to, torri’r fframwaith dur, cael gwared ar doeau bregus a chyfarwyddo eraill ynghylch arferion dymchwel diogel.
  • Defnyddio driliau morthwyl, offer torri ocsi-asetylen a pheiriannau.
  • Paratoi strwythur ar gyfer dymchwel gyda ffrwydron.
  • Dilyn rheoliadau iechyd a diogelwch llym bob amser
  • cael gwared â deunyddiau peryglus fel asbestos a chemegau gwenwynig yn ddiogel
  • Cynllunio, goruchwylio ac adolygu’r gwaith o ddymchwel adeiladau a strwythurau
  • Rheoli tîm y prosiect drwy gydol y broses
  • Cynghori ar y gwaith sy’n cael ei wneud
  • Sicrhau bod gofynion iechyd, diogelwch a’r amgylchedd yn cael eu bodloni
  • Gofalu am y gwaith o weinyddu contractau
  • Gofalu am reoli ariannol 
  • Rheoli llywodraethu is-gontractwyr
  • Gofalu am y gwaith o reoli gweithwyr adeiladu eraill ar y safle o ddydd i ddydd
  • Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio yn yr awyr agored ac o dan unrhyw amgylchiadau.
  • Mae’n aml yn fudr ac yn llychlyd ac weithiau’n golygu gweithio mewn mannau uchel ac efallai y bydd yn rhaid gweithio oriau hirach dros fisoedd yr haf


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithiwr dymchwel?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithiwr dymchwel yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gweithwyr dymchwel sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithwyr dymchwel hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall uwch weithwyr dymchwel ennill £30,000 - £45,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithwyr dymchwel: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda hyfforddiant pellach a phrofiad gallech arbenigo mewn math penodol o waith dymchwel, fel ffrwydron.

Neu, gallech symud i rôl goruchwylio neu reoli a goruchwylio gwaith ar safle adeiladu. 

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithiwr dymchwel Dysgwch fwy am fod yn weithiwr dymchwel yn ein canllaw i rôl gweithiwr dymchwel....
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Arweinydd Tîm Adeiladu Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa fel Goruchwyliwr Galwedigaethol. Byddwch yn g...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080