Facebook Pixel

Amrywiaeth mewn Adeiladu

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o sylfeini’r diwydiant adeiladu. Efallai y bydd yn eich synnu, o ystyried y camsyniadau sy’n dal i fodoli, ynghylch pa mor amrywiol a chynhwysol yw’r diwydiant adeiladu. Efallai bod gwerthoedd hen ffasiwn yn parhau mewn rhai mannau, ond dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â’r realiti.

Dewch i ddarganfod straeon yr unigolion talentog a medrus sy’n gwneud cymaint i newid amrywiaeth yn y gweithle a gwneud y diwydiant adeiladu yn un lle mae croeso i bawb – beth bynnag fo’u rhyw, hil, anabledd neu hunaniaeth rywiol.

Diwydiant i bawb: cynhwysiant a chydraddoldeb yn y diwydiant adeiladu

Beth bynnag fo’ch cefndir, mae lle i chi yn y diwydiant adeiladu. Mae cael gweithlu amrywiol yn dod â manteision i’r gweithiwr a’r cyflogwr. Dysgwch sut mae’r diwydiant adeiladu yn croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu

Mae’r diwydiant adeiladu wedi gwneud cynnydd mawr dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn fwy amrywiol a chynhwysol. Mae gweithle cynhwysol yn bwysig gan ei fod yn annog ystod ehangach o leisiau i gael eu clywed a rhannu profiadau, ac mae’n creu cyfleoedd ar gyfer cronfa ehangach o dalent yn y diwydiant. Dylai’r diwydiant adeiladu adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth gyffredinol.

Bydd diwydiant adeiladu cynhwysol ac amrywiol hefyd yn fwy croesawgar i bobl o gymunedau Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDTC+) a Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a bydd hefyd yn annog ceisiadau gan fenywod a phobl ag anableddau. Mae llawer i’w wneud o hyd. Menywod yw 15% o’r gweithlu yn y diwydiant adeiladu, ond mae’r nifer hwn yn dal yn rhy isel. Dim ond 2% o weithwyr adeiladu sy’n ystyried eu hunain yn ddeurywiol, yn hoyw neu’n lesbiad ar hyn o bryd, er bod 3.2% o boblogaeth y DU yn perthyn i’r gymuned LHDTC+, yn ôl consensws diweddar.

Dathlu Mis Hanes Pobl Ddu: Amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu

Cynhelir Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref yn y DU bob blwyddyn ers 1987. Mae’n dathlu cyfraniad pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol mewn cymdeithas, ac yn tynnu sylw at yr heriau y mae pobl o’r cefndiroedd hyn wedi’u hwynebu a’u llwyddiannau ym mhob agwedd ar fywyd. Ym mis Hydref 2023, mae Mis Hanes Pobl Ddu yn y DU yn canolbwyntio ar lwyddiannau merched du o dan y thema ‘Saluting our Sisters’.

Pam mae amrywiaeth ethnig mor bwysig i’r diwydiant adeiladu?

Amcangyfrifir bod llai na 6% o bobl sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig amrywiol. Mae hyn yn cymharu â thua 14% o boblogaeth y DU sy’n gweithio, ac mewn rhai ardaloedd yn Llundain mae’r gymuned nad yw’n wyn yn cyfrif am 40% o’r boblogaeth. Felly, mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i gynyddu amrywiaeth ethnig y diwydiant adeiladu. Po fwyaf amrywiol yw’r gweithlu, y mwyaf y bydd y diwydiant adeiladu yn adlewyrchu cymdeithas a lleisiau a phrofiadau’r bobl ynddi.

Bydd cwsmeriaid, cleientiaid a chyflenwyr yn gallu uniaethu i raddau mwy gyda chwmnïau sydd â gweithlu mwy amrywiol o ran ethnigrwydd, neu weithlu tebycach i’w hethnigrwydd nhw. Mae hyn yn arbennig o wir mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol, lle mae mwy o boblogaeth nad yw’n wyn a mwy o waith adeiladu’n digwydd. Mae gweithwyr o leiafrifoedd ethnig hefyd yn fwy tebygol o fod eisiau gweithio i gyflogwr amrywiol a chynhwysol.

 

Pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant adeiladu

Mae’r diwydiant adeiladu wedi gwneud cynnydd mawr dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn fwy amrywiol a chynhwysol. Mae gweithle cynhwysol yn bwysig gan ei fod yn annog ystod ehangach o leisiau i gael eu clywed a rhannu profiadau, ac mae’n creu cyfleoedd ar gyfer cronfa ehangach o dalent yn y diwydiant. Dylai’r diwydiant adeiladu adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth gyffredinol.

Bydd diwydiant adeiladu cynhwysol ac amrywiol hefyd yn fwy croesawgar i bobl o gymunedau LHDTC+ a Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a bydd hefyd yn annog ceisiadau gan fenywod a phobl ag anableddau. Mae llawer i’w wneud o hyd. Menywod yw 15% o’r gweithlu yn y diwydiant adeiladu, ond mae’r nifer hwn yn dal yn rhy isel. Dim ond 2% o weithwyr adeiladu sy’n ystyried eu hunain yn ddeurywiol, yn hoyw neu’n lesbiad ar hyn o bryd, er bod 3.2% o boblogaeth y DU yn perthyn i’r gymuned LHDTC+, yn ôl consensws diweddar.

Dyluniwyd y wefan gan S8080