Facebook Pixel

Adeiladu a ffoaduriaid

Mae ffoaduriaid yn cynnig cyfoeth o brofiad i ddiwydiant adeiladu’r DU. Felly sut gall cyflogwyr a gweithwyr sy’n ffoaduriaid fanteisio i’r eithaf ar eu sgiliau?

Gall cwmnïau adeiladu elwa ar amrywiaeth o fanteision drwy groesawu ffoaduriaid i’w gweithlu. Ond mae’r diwydiant adeiladu hefyd yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil i weithwyr sy’n ffoaduriaid eu hunain, gan roi cyfle iddynt ddysgu sgiliau arloesol a chyfrannu at brosiectau seilwaith mawr.

Gyda hynny mewn golwg, gadewch i ni edrych ar fanteision lleoli ffoaduriaid mewn swyddi adeiladu – a’r pethau y mae angen i gyflogwyr eu hystyried...

Deall statws ffoadur

Mae’r term “statws ffoadur” yn cael ei gamddefnyddio’n aml, felly mae hynny'n ei gwneud yn anodd i fusnesau ddeall beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd. Yn syml iawn, mae ffoadur yn rhywun sydd wedi ffoi o’i wlad enedigol oherwydd erledigaeth neu berygl difrifol. 

Maen nhw’n cael caniatâd i fyw a gweithio yn y DU os ydy eu cais am loches yn llwyddiannus. Cyn belled â bod rhywun yn cael ei ystyried yn ffoadur yn swyddogol, ni chyfyngir ar y math o waith y gall ei wneud.


Cyflogi ffoaduriaid: y pethau allweddol i’w hystyried

Mae gan ffoaduriaid statws mewnfudo arbennig. Yn wahanol i geiswyr lloches, mae ganddynt ganiatâd i weithio yn y DU am bum mlynedd i ddechrau. Ac yn wahanol i fudwyr economaidd, nid oes angen iddynt brofi bod ganddynt sgiliau penodol drwy system sy'n seiliedig ar bwyntiau.

Wrth gyflogi ffoaduriaid, mae’n rhaid i gyflogwyr ystyried y canlynol:

  • Eu Trwydded Preswylio Biometrig, sy’n profi eu bod wedi cael caniatâd i aros yn y DU
  • Eu rhif Yswiriant Gwladol, a ddylai fod wedi’i roi gan y Llywodraeth
  • Y cyfnod o amser y caniateir iddynt aros yn y DU - pum mlynedd yw hyn i ddechrau
  • Dogfennau perthnasol eraill, fel tystiolaeth o gyflogaeth flaenorol

Oes, yn wahanol i geiswyr lloches, mae gan ffoaduriaid ganiatâd i weithio yn y DU am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod cyflogwyr yn gwirio statws ffoaduriaid unigol.

Ydynt, unwaith y bydd gan ffoaduriaid statws ffoadur wedi'i gadarnhau y caniateir iddynt weithio mewn unrhyw broffesiwn ac ar unrhyw lefel sgil.

Mae angen i fusnesau wirio ychydig o bethau hanfodol am ymgeisydd sy'n ffoaduriaid, fel eu Trwydded Breswylio Fiometrig, rhif Yswiriant Gwladol, a faint o amser y caniateir iddynt aros yn y DU. Dylai cwmnïau hefyd ofyn am dystiolaeth o gyflogaeth flaenorol.


Y camau nesaf

Gall cyflogwyr sy’n bwriadu cyflogi ffoaduriaid medrus gysylltu ag asiantaethau lleol, fel Transitions

I gael gwybod mwy am y broses gyflogaeth a'r statws arbennig sydd gan ffoaduriaid, gall cwmnïau adeiladu gysylltu â Chyngor y Ffoaduriaid neu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Canllawiau swyddogol y Swyddfa Gartref

I gael rhagor o wybodaeth am gyflogi gweithwyr sy'n ffoaduriaid, mae gwefan y Llywodraeth yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol. 

Dyluniwyd y wefan gan S8080