Facebook Pixel

Adeiladu ac ethnigrwydd

Gall cwmnïau adeiladu gyda gweithluoedd ethnig amrywiol gynrychioli a gwasanaethu eu cleientiaid yn well. Mae’r diwydiant wedi dod yn ymwybodol o hyn, ac maen nhw’n cynnig mwy o gyfleoedd i ddarpar weithwyr.

Cynnwys gweithwyr o gefndiroedd ethnig amrywiol

Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl o grwpiau ethnig leiafrifol bellach yn ymuno â’r sector adeiladu ac yn camu ymlaen, ac mae’r cyfleoedd yn y dyfodol yn debygol o dyfu. 

Rhagwelir y bydd poblogaeth y DU yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd, ac yn ffynhonnell refeniw sylweddol yn y dyfodol, felly mae cynnwys gweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu.

llun amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu

Pam mae amrywiaeth ethnig yn y diwydiant adeiladu yn well i weithwyr a chleientiaid

Gall gweithlu sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd wneud cwmni nid yn unig yn fwy deniadol i ddarpar weithwyr, ond hefyd i gwsmeriaid, a’i wneud yn fwy arloesol o ran ei ddulliau gweithredu. Fel y dywedodd un o’r rhai a gyfwelwyd sy’n gweithio ym maes adeiladu mewn arolwg:

“Rydyn ni’n darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae poblogaeth BAME* uchel, ond nid ydym wedi ein lleoli mewn ardal debyg. Dwi’n teimlo ein bod ni angen gweithlu BAME i gynrychioli ein grŵp cleientiaid.”

Roedd un arall a gafodd ei gyfweld hefyd yn meddwl y byddai’n fwy cystadleuol pe bai ei weithlu’n cyd-fynd yn agosach o ran ethnigrwydd â’i sylfaen cwsmeriaid amrywiol.

Dywedodd un arall: “Os oes gennym ni weithlu mwy amrywiol, bydd gennym ni syniadau gwell. Os na fyddwn yn arloesi, ni fyddwn yn edrych tua’r dyfodol. Mae hyn yn golygu y tîm yn dod at ei gilydd, yn cydweithio gyda gwahanol safbwyntiau, ac mae’n rhaid iddo fod yn gadarnhaol.” 

Os bydd gennym weithlu mwy amrywiol, bydd gennym syniadau gwell. Os nad ydym yn arloesi, fyddwn ni ddim yn edrych tua’r dyfodol.

AROLWG AMRYWIAETH

Dathlu Mis Hanes Pobl Ddu

Beth yw Mis Hanes Pobl Ddu?

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy'n ceisio hyrwyddo cyflawniadau pobl o dras Affricanaidd-Americanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd yng nghymdeithas Prydain.  

Pryd mae Mis Hanes Pobl Ddu?

Cynhelir Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref yn y DU (ac ym mis Chwefror yn yr Unol Daleithiau).

Pam mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig?

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn bwysig gan ei fod yn tynnu sylw at brofiad pobl Ddu yn y DU, yn hanesyddol a heddiw. Mae’n adrodd straeon am sut mae pobl Ddu a phobl o leiafrifoedd ethnig wedi goresgyn heriau a rhagfarn, ac wedi brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol, rhagor o gyfleoedd economaidd a chynrychiolaeth wleidyddol. 

Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn atgoffa’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyflogwyr ym maes adeiladu bod gwella amrywiaeth ethnig yn hanfodol ar gyfer dyfodol y diwydiant, a barn pobl ohono.

Deddf Cydraddoldeb 2010: Gwahardd Gwahaniaethu ar sail Ethnigrwydd

Mae’r gyfraith yn rhoi hwb pellach i gyfleoedd i leiafrifoedd ethnig. Nid yn unig y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ar sail ethnigrwydd, ond mae hefyd yn cynnwys pwerau sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio prosesau caffael i hybu cydraddoldeb.

Yn gryno, os bydd corff cyhoeddus yn contractio cwmni adeiladu y canfyddir ei fod yn gweithredu mewn ffordd wahaniaethol, gellir dal y corff cyhoeddus yn atebol. Nod hyn yw taflu goleuni ar ddiwylliannau busnes contractwyr.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Dysgwch fwy am amrywiaeth ethnig ym maes adeiladu heddiw

I gael rhagor o wybodaeth am amrywiaeth yn y diwydiant adeiladu a Mis Hanes Pobl Ddu, tarwch olwg ar unrhyw rai o’r adnoddau a’r dolenni isod.

(*Mae’r term BAME yn derm a ddefnyddiwyd yn eang tan yn ddiweddar i ddisgrifio pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Nid yw Am Adeiladu yn defnyddio’r term hwn mwyach, ond efallai y bydd cyfeiriadau hanesyddol at BAME o hyd, ac mewn dyfyniadau wedi’u priodoli ac enwau sefydliadau, ar wefan Am Adeiladu)

Dyluniwyd y wefan gan S8080