Facebook Pixel

Ymuno â diwydiant adeiladu Prydain

Mae diwydiant adeiladu’r DU yn tyfu. Mae diweithdra wedi gostwng i’w lefel isaf ers degawd, ac mae enillion wedi cynyddu. Fel gydag unrhyw swydd, gall gweithio ym maes adeiladu fod yn anodd ond gall hefyd fod yn werth chweil, p’un ai ydych chi ar y safle neu y tu ôl i ddesg.

Beth sydd mor dda amdano?

Dros y pum mlynedd nesaf, mae disgwyl y bydd dros 230,000 o swyddi adeiladu’n cael eu creu. Ar draws y diwydiant, mae hyn yn golygu y bydd angen llenwi nifer o swyddi newydd. Gyda phrinder sgiliau ar draws y diwydiant, does erioed wedi bod amser gwell i ymuno â diwydiant adeiladu Prydain.

O beintwyr i blymwyr, mae angen mwy o weithwyr medrus ar y diwydiant adeiladu. Yn ogystal â rolau ar safleoedd adeiladu, bydd angen i’r diwydiant hefyd gael pobl i lenwi’r ystod eang o swyddi yn y gwasanaethau ategol. Pa gymhwyster bynnag sydd gennych chi, mae’n debyg y byddwch yn dod o hyd i rôl yn y diwydiant adeiladu.


Beth mae’n ei gynnig i mi?

Safonau adeiladu rhagorol

Mae diwydiant adeiladu’r DU yn enwog am y safonau uchel a ddisgwylir gan ei weithwyr a’i gyflogwyr. O fewn y diwydiant, mae ethos cryf o iechyd a diogelwch ar y safle ac mae lles gweithwyr yn ystyriaeth o’r pwysigrwydd mwyaf. Mae’r diwydiant hefyd yn cynnig amodau gwaith a chyflogau rhagorol i bob gweithiwr, ar ba bynnag lefel maen nhw yn y diwydiant. 

Gwerthfawrogi sgiliau gweithwyr

Mae gweithwyr tramor yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ym mhob rhan o ddiwydiant adeiladu’r DU, a gall gynnig gyrfa hir a gwerth chweil i chi. Yn dibynnu ar eich cyflogwr, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael hyfforddiant ychwanegol i ddysgu sgiliau arloesol, gan eich helpu i ddatblygu eich gyrfa yn y tymor hir. 

Diwydiant cynhwysol

Mae diwydiant adeiladu Prydain yn ddiwydiant cynhwysol ac mae’n hyrwyddo pwysigrwydd cael gweithlu amrywiol. Mae’r hen stereoteip fod adeiladu yn ‘waith dyn’ yn dechrau diflannu, ac mae mwy a mwy o fenywod yn dewis gyrfa hirdymor a llwyddiannus ym maes adeiladu. 

Bu camdybiaeth ers hir fod adeiladu’n hen ffasiwn o ran amrywiaeth. Yn sicr, nid yw hyn yn wir y dyddiau hyn, ac mae llawer o gwmnïau adeiladu’r DU yn hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithle, ar y safle, ac oddi arno. 

Mae cyflogwyr yn y DU yn defnyddio sgiliau pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd i fanteisio i’r eithaf ar wahanol ffyrdd o weithio. Mae hyn yn golygu bod diwylliant o dderbyn, parchu a chydweithio’n cael ei feithrin yn y gweithle. 

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig

Mae gennym lawer o straeon gan bobl sy’n gweithio yn y maes adeiladu ledled y DU, o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

Dysgwch sut beth yw hi go iawn i gael swydd ym maes adeiladu heddiw.


Sut ydw i’n dechrau arni?

I weithio yn y DU, bydd angen i chi gael fisa gwaith cyfredol y DU. Mae amryw o fisas gweithio, trwyddedau gwaith a phasportau y DU ar gael a fydd yn eich galluogi i weithio'n gyfreithlon yn y DU. Mae gan bob un o’r rhain ei ofynion a’i gyfyngiadau ei hun, felly mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn ymchwilio’n ofalus i weld pa un y bydd ei angen arnoch.

Nawdd

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi fod wedi cael swydd grefftus a chael eich noddi cyn y gallwch chi wneud cais am fisa gwaith yn y DU. Os felly, rhaid i’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn y DU ymwneud â gwaith y sefydliad sy’n eich noddi. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am nawdd ar wefan Llywodraeth y DU.

Mae’n anghyfreithlon gweithio yn y DU os nad oes gennych hawl i wneud hynny. Gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn gweithio'n anghyfreithlon wynebu dedfryd o garchar, a byddai canlyniadau difrifol i'ch cyflogwr hefyd. Mae’n bwysig profi eich bod yn gymwys i weithio yn y DU er mwyn atal hyn.


Sgiliau Trosglwyddadwy 

Yn aml, mae eich sgiliau, eich cymwysterau a’ch profiad gwaith yn drosglwyddadwy i sawl maes yn y diwydiant adeiladu. Mae’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) eisoes yn cydnabod llawer o gymwysterau rhyngwladol.

Beth os nad yw fy nghymhwyster yn cael ei gydnabod?

Os oes gennych chi gymhwyster sy’n gysylltiedig ag adeiladu a ddyfarnwyd y tu allan i’r DU ac nad yw’n cael ei gydnabod gan y CSCS ar hyn o bryd, dylech chi gysylltu â UK NARIC.

Pwy yw UK NARIC?

UK NARIC yw’r asiantaeth genedlaethol ar gyfer cydnabod a chymharu cymwysterau a sgiliau rhyngwladol. Bydd yr asiantaeth yn adolygu eich cymhwyster ac yn penderfynu a yw’n gymharol â chymhwyster yn y DU. Byddan nhw hefyd yn penderfynu a yw’n briodol i’ch galwedigaeth ac i’r cerdyn rydych chi’n gwneud cais amdano.


Sut all y diwydiant adeiladu fy helpu i?

Mae’n dal yn bosibl i weithwyr sydd â Saesneg fel ail iaith gael cerdyn CSCS a bod yn gymwys i weithio yn y diwydiant adeiladu yn y DU. Mae’r prawf Sgiliau Adeiladu, Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y rheini sy’n dymuno gweithio ar safle adeiladu.

I’r rheini sydd heb fawr o Saesneg, gellir sefyll y prawf mewn amryw o ieithoedd neu gyda chymorth cyfieithydd.

Efallai y bydd rhai cyflogwyr adeiladu mwy yn defnyddio goruchwylwyr amlieithog hyd yn oed i gyfieithu cyfarwyddiadau ac arweiniad i iaith gyntaf eu gweithwyr, felly mae’n golygu eich bod yn dal i allu sefyll a chwblhau’r prawf i gael y cerdyn perthnasol.


Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

Dyluniwyd y wefan gan S8080