Pan fyddwch chi’n ystyried newid eich gyrfa, gall deimlo fel penderfyniad brawychus. Fodd bynnag, os ydych chi’n dod o swydd bresennol, mae’n debygol bod gennych chi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, pethau rydych chi wedi’u dysgu neu wedi cael hyfforddiant ynddynt a fydd yn ei gwneud yn haws i chi symud i swydd newydd. 

Mae gyrfa yn y diwydiant adeiladu yn gyffrous a gallwch chi ddod o hyd i amrywiaeth eang o swyddi sy’n addas i’ch sgiliau presennol, o ddylunio i TG, rheoli i weithio mewn swyddfa, a phopeth yn y canol. 

Bydd yr erthygl hon yn rhestru rhai o’r swyddi sydd ar gael i chi os ydych chi’n ystyried newid eich gyrfa i swydd ym maes adeiladu, ond peidiwch â phoeni os na allwch chi weld un sy’n gweithio i chi gan fod rhestr lawn ar gael yma.

Trosglwyddo eich sgiliau i'r diwydiant adeiladu

Mae’n bwysig cofio bod sgiliau’n aml yn drosglwyddadwy o un swydd i’r llall, hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl hynny i ddechrau. Ond, os gallwch chi reoli tîm mewn un lle, mae’n debyg y byddwch chi’n gallu ei wneud yn y diwydiant adeiladu hefyd, hefyd mae tasgau gweinyddol tebyg mewn llawer o rolau swyddfa y byddwch chi wedi cael eich hyfforddi i’w gwneud.  

Mae’n gyffrous meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer eich swydd yn y diwydiant adeiladu yn barod. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw newid eich persbectif i’r diwydiant newydd y byddwch chi’n gweithio ynddo. 

Delwedd o bobl yn trosglwyddo sgiliau

Symud i swydd reoli ym maes adeiladu

Mae angen rheoli pob prosiect adeiladu. O archwilio deunyddiau i reoli contractwyr, mae nifer o rolau ar gael i reolwyr profiadol. 

Rheolwr masnachol

Mae rheolwyr masnachol yn gyfrifol am gyllidebau prosiectau adeiladu mawr. Os ydych chi eisoes yn delio â chyllid eich busnes neu’n gwneud yn siŵr bod y gwaith yn aros ar y trywydd iawn i’w gyflawni erbyn y dyddiad cau a bod materion ariannol yn llifo’n esmwyth, bydd y swydd hon yn eich gweddu chi’n iawn.  

Rheolwr Cydymffurfio

Mae swydd rheolwr cydymffurfio yn addas i unrhyw un sydd â phrofiad o sicrhau bod safonau a rheoliadau proffesiynol yn cael eu bodloni. Os ydych chi eisoes yn gweithio i sicrhau bod polisïau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol, neu ofynion cyfreithiol yn cael eu dilyn, mae hon yn swydd addas i chi. 

Uwch reolwr

Mae Uwch reolwyr yn goruchwylio pob math o dimau sy’n ymwneud ag adeiladu, felly mae’n hawdd trosglwyddo profiad rheoli o rôl arall. Os ydych chi eisoes yn arwain ac yn helpu prosiectau i aros ar y trywydd iawn, gallwch symud i yrfa ym maes adeiladu yn eithaf hawdd.  

Newid gyrfa ar gyfer arbenigwyr TG

Os ydych chi’n frwd dros dechnoleg, mae llawer o ddewis ym maes adeiladu. Mae mwy o adeiladau’n cael eu dylunio gyda meddalwedd uwch-dechnoleg nag erioed, ac mae lle i beirianwyr a gweithwyr cymorth TG ar bron iawn bob prosiect adeiladu. 

Dadansoddwr cymorth TG

Mae angen cymorth TG ar bob busnes, ar gyfer telegyfathrebiadau, cyfrifiaduron, WANs.... mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Os ydych chi wedi rheoli systemau TG yn eich swyddi presennol neu yn y gorffennol, bydd gennych eisoes yr hyn sydd ei angen arnoch i fod yn ddadansoddwr cymorth TG ar gyfer y diwydiant adeiladu. 

Technegydd BIM

Mae rôl technegydd BIM yn ymwneud â dyluniadau a lluniadau technegol sy’n cael eu hadeiladu yn y pen draw. Os oes gennych chi brofiad o waith dylunio gan ddefnyddio technoleg, fel lluniadau Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur, rydych chi eisoes ar y trywydd cywir i wneud hon yn rôl a allai weithio i chi.

Technegydd peirianneg sifil

Yn y maes adeiladu, mae hon fel arfer yn rôl arbenigol o ran naill ai dylunio, cynllunio neu logisteg, felly byddai profiad yn unrhyw un o’r meysydd hyn yn eich helpu i symud. Mae’r sgiliau eraill sydd gennych a fydd yn eich helpu chi yn rôl technegydd peirianneg sifil yn cynnwys darparu cymwysterau peirianneg a chymorth technegol.  

Delwedd Dylunydd

Gyrfaoedd ym maes adeiladu i ddylunwyr

Bydd pob prosiect adeiladu yn dechrau gyda dyluniad. Mae angen meddwl yn greadigol ar draws y diwydiant er mwyn parhau i wthio’r ffiniau o ran yr hyn y gall adeilad neu seilwaith ei gyflawni, ei effaith ar yr amgylchedd, a sut y bydd yn effeithio ar y bobl sy’n ei ddefnyddio, boed chi’n dylunio cartrefi, swyddfeydd, parciau manwerthu neu ffyrdd. Mae rolau dylunio yn amrywiol a byddant yn eich galluogi i ystwytho eich cyhyrau creadigol ar gyfer amrywiaeth o brosiectau. 

Prif ddylunydd

Fel rhan o rôl prif ddylunydd ym maes adeiladu, byddech yn cydlynu lluniadau a chynlluniau technegol i helpu i gadw pawb ar yr un dudalen, gan gynnwys penseiri, peirianwyr strwythurol a pheirianwyr gwasanaethau, a dylunwyr arbenigol. Os oes gennych gefndir ym maes dylunio, gallech weithio tuag at elfen reoli’r rôl hon. 

Delweddwr 3D

Bydd unrhyw waith gyda dyluniad neu animeiddiad 3D yn cynnig cyfle da i chi symud i rôl delweddwr 3D o ddiwydiant gwahanol. Mae creadigrwydd yn elfen allweddol, ac mae diddordeb mewn pensaernïaeth hefyd o gymorth wrth gwrs. 

Gweithredwr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur

Bydd gweithredwyr Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur yn gweithio gyda lluniadau 2D a 3D, gan helpu i’w trosi’n ddyluniadau adeiladu a diagramau, felly bydd meddwl creadigol yn helpu. Os ydych chi wedi gweithio gyda diagramau technegol neu raglenni dylunio mewn unrhyw ddiwydiant, bydd yn eich helpu yn y rôl hon hefyd. 

Gyrfaoedd i bobl sydd â chefndir ym maes gweithgynhyrchu

Mae gweithgynhyrchu’n rhan fawr o brosiectau adeiladu, ac mae angen i ddeunyddiau a darnau fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn i wneud i’r gwaith adeiladu ddigwydd. Os ydych chi eisoes yn ymwneud â logisteg, symud neu brynu nwyddau, mae gennych chi’r hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer gyrfa yn y diwydiant adeiladu. 

Rheolwr Depo

Mae rheoli symudiad nwyddau yn galw am sgiliau trefnu a gallu ymdopi â thasgau wrth i chi oruchwylio pethau sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o warws, ffatri neu swyddfa. Mae’n hawdd trosglwyddo’r sgiliau hyn o unrhyw nifer o ddiwydiannau i rôl fel rheolwr depo ym maes adeiladu

Rheolwr logisteg a pheiriannau

Mae rheolwyr peiriannau ar gael mewn llawer o ddiwydiannau eraill ar wahân i adeiladu, sy’n golygu ei bod yn hawdd i chi symud gyda’r profiad a gawsoch mewn rôl yn rhywle arall. Mae logisteg yn debyg gan ei fod yn gwneud yn siŵr bod dogfennau a nwyddau’n cael eu tracio’n iawn, sy’n sgil ddefnyddiol ar gyfer unrhyw rôl. 

Rheolwr prynu

Byddai cefndir ym maes cyllid neu reoli cyllidebau yn fan cychwyn perffaith ar gyfer symud i rôl rheolwr prynu yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rôl hanfodol sy’n cynnwys contractau a chaffael deunyddiau, felly bydd profiad o’r naill neu’r llall yn fanteisiol.  

Gyrfaoedd gwaith swyddfa yn y diwydiant adeiladu

Yn aml, mae tîm o staff swyddfa yn cefnogi pob agwedd ar brosiect adeiladu, o gyllid i adnoddau dynol. Os ydych chi eisoes yn gweithio yn y math hwn o rôl, rydych chi’n fwy na pharod i’w wneud yn y maes adeiladu hefyd.

Gweinyddwr

Mae swyddi gweinyddol yn bwysig ar draws pob diwydiant, yn aml yn sail i weithrediad llyfn popeth, o ddylunio i fynediad i safleoedd adeiladu. Os ydych chi’n drefnus ac yn canolbwyntio ar fanylion, mae gwaith gweinyddol yn addas i chi. 

Staff adnoddau dynol

Lle bynnag y mae pobl yn gweithio, mae angen adnoddau dynol arnoch. O recriwtio i reoli materion o ddydd i ddydd ymysg staff, mae hon yn swydd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rheoli pobl a helpu busnes i redeg yn esmwyth.

Rheolwr dogfennau

Glasbrintiau, lluniadau technegol, contractau....os ydych chi’n cadw unrhyw waith papur yn drefnus a dan reolaeth fel rhan o’ch rôl bresennol, byddwch yn ffitio i mewn yn berffaith pan fyddwch yn symud i faes adeiladu fel rheolwr dogfennau. Byddwch yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl, o benseiri i syrfewyr, gan sicrhau bod dogfennau'n gyfredol ac yn cael eu rheoli'n effeithlon. 

Rhagor o wybodaeth am yrfaoedd ym maes adeiladu

O mythbusters i negeseuon blog i’ch ysbrydoli, mae gennym ddigon o wybodaeth i chi am yrfaoedd ym maes adeiladu. Neu, os ydych chi’n barod i ddechrau chwilio am swyddi ar unwaith, ewch i ganlyniadau chwilio indeed.com’s  neu Gyngor Arwain y Diwydiant Adeiladu (CLC) i ddod o hyd i gyfleoedd newydd cyffrous ar draws y diwydiant. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar  Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.