Gyrfa ym maes pensaernïaeth yw un o’r swyddi mwyaf creadigol, cymhleth a heriol ym maes adeiladu. Dyna pam y gall gymryd saith mlynedd i gymhwyso fel pensaer! Ond er ei bod yn brentisiaeth hir, gall dylunio adeiladau fod yn broffesiwn gwerth chweil sy’n cael effaith fawr ar gymdeithas.  


Pwy sydd wedi cynllunio dyluniadau’r adeiladau enwocaf?

Rydym wedi gweld penseiri gwych, drwy hanes ac yn yr oes fodern. Ymhlith y rhai mwyaf nodedig mae:  

  • Michelangelo (1475-1564), a ddyluniodd gryndo Basilica San Pedr yn Rhufain  
  • Syr Christopher Wren (1632-1723), pensaer Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain  
  • Antoni Gaudi (1852-1926), y mae ei adeiladau’n cynnwys cadeirlan Sagrada Familia, Barcelona  
  • Frank Lloyd Wright (1867-1959), un o benseiri mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif 
  • Yr Arglwydd Norman Foster (1935- ), sydd wedi dylunio rhai o adeiladau modern mwyaf eiconig yn y byd, fel traphont Millau, 30 St Mary Axe (y ‘gherkin’) yn Ninas Llundain a’r derfynfa ym Maes Awyr Stansted  

Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn bensaer?

Yn gyntaf ac yn bennaf, mae angen i benseiri feddu ar sgiliau dylunio rhagorol, ar bapur a CAD (dylunio gyda chymorth cyfrifiadur). Mae angen i chi allu gweld eich syniadau dylunio yn effeithiol, a’u cefnogi gyda dealltwriaeth o ddylunio ac adeiladu adeiladau.  

Dylai fod gennych sgiliau datrys problemau, meddwl a rhesymu rhagorol, dylech allu meddwl yn ddadansoddol a chael dealltwriaeth gadarn o fathemateg a chyllid. Dylech allu gweithio’n dda a chyfathrebu’n rhwydd ag amrywiaeth eang o weithwyr yn y diwydiant adeiladu, o reolwyr safle i beirianwyr sifil.  

Mae sgiliau allweddol eraill yn cynnwys:  

  • Sylw i fanylion 
  • Cyfathrebu ar lafar 
  • Gallu gweithio ar eich liwt eich hun  

Pam ddylech chi ystyried gyrfa mewn pensaernïaeth? 

Os ydych chi’n frwd dros bensaernïaeth, dylunio a’r ffordd mae pobl yn rhyngweithio ag adeiladau, yna gallai llwybr gyrfa pensaernïaeth fod yn addas i chi.  

Mae angen adeiladau newydd bob amser, at ddibenion preswyl, masnachol neu hamdden, ac mae penseiri’n hanfodol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Felly, drwy ddylunio adeiladau newydd, byddwch yn cyflawni rôl hanfodol mewn cymdeithas ac mae gennych chi’r potensial i drawsnewid bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ynddynt.  

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn dod yn fater hollbwysig wrth ddylunio ac adeiladu adeiladau newydd, felly os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y gall pensaernïaeth leihau ei heffaith ecolegol, gallai gyrfa mewn dylunio adeiladau fod yn brofiad gwerth chweil.  

Ble allwch chi ddysgu mwy am fod yn bensaer?

Mae gennym ddigonedd o wybodaeth ddefnyddiol am yrfaoedd a phrentisiaethau mewn pensaernïaeth yn Am Adeiladu, ac mae rhai adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi:  

Sut gallwch chi gael profiad pensaernïol?

Mae dau lwybr at yrfa mewn pensaernïaeth. Gallwch naill ai astudio am radd mewn pensaernïaeth yn y brifysgol, sy'n cymryd saith mlynedd (gan gynnwys dwy flynedd o brofiad gwaith ymarferol). Mae prentisiaethau pensaernïol yn cynnig llwybr galwedigaethol i’r proffesiwn, gydag oddeutu 80% o amser prentis yn cael ei dreulio gyda chwmni pensaernïol, a 20% yn canolbwyntio ar astudiaeth academaidd.  

I fod yn brentisiaid cymwysedig, dylent gwblhau prentisiaeth Cynorthwyydd Pensaernïol Lefel 6 a Phrentisiaeth Pensaer Lefel 7. Mae’n bosibl i brentisiaid pensaernïol gymhwyso mewn pedair blynedd yn unig, a chael eu talu wrth gael profiad gwaith. Fodd bynnag, mae’n gymharol anodd dod o hyd i brentisiaethau pensaernïol.  


Gwneud cais am swyddi pensaernïol heddiw