Facebook Pixel

Beth i’w ddisgwyl o gyfweliad prentisiaeth

Woman getting hired for apprenticeship position.

Rydych chi wedi gwneud cais am brentisiaeth ac wedi cael cyfweliad – da iawn chi! Mae cyrraedd y cam hwn yn llwyddiant ysgubol, a nawr mae’n bryd paratoi er mwyn i chi allu cael y brentisiaeth.

Meddyliwch am gyfweliad prentisiaeth fel sgwrs gwrtais, yn hytrach na chael eich holi’n dwll. Mae’r cyfweliad yn gyfle i weld a fyddech chi’n hoffi’r brentisiaeth a’r cwmni, yn ogystal â chyfle i’r cyflogwr weld a ydych chi’n addas ar gyfer y swydd.

Mae’n naturiol bod yn nerfus cyn cyfweliad. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw paratoi’n dda, meddwl am y cwestiynau a allai gael eu gofyn i chi, a chael syniad o sut byddech chi’n eu hateb.

Cyfweliadau prentisiaeth – y pethau hanfodol

Gall cyfweliadau fod ar ffurf sgyrsiau un i un neu drafodaethau panel (lle mae mwy nag un person yn eich cyfweld chi), wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn; efallai eu bod eu cynnwys yn seiliedig ar gymhwysedd, neu eu bod yn canolbwyntio mwy ar eich cymeriad neu sefyllfaoedd penodol.

Mae cyfweliadau prentisiaeth yn debygol o fod yn seiliedig ar gymhwysedd. Byddan nhw’n canolbwyntio ar y pethau y gallwch chi eu gwneud, felly byddan nhw’n gofyn i chi roi enghreifftiau i ddangos bod gennych chi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Fodd bynnag, bydd y canllaw hwn hefyd yn cynnwys cyngor cyffredinol, a chynghorion ac awgrymiadau y gellir eu defnyddio mewn unrhyw gyfweliad.

Yn ystod y cyfweliad, byddai disgwyl i’r cyfwelydd ofyn am y canlynol:

  • Eich sgiliau a’ch profiad
  • Eich cryfderau (ac efallai eich gwendidau)
  • Pam rydych chi eisiau’r brentisiaeth benodol hon
  • Eich dealltwriaeth chi o’r diwydiant adeiladu a’r swydd dan sylw
  • Eich nodau ar gyfer y dyfodol

Sut i baratoi ar gyfer y cyfweliad

Ydych chi’n cofio’r “5 P” (prior planning prevents poor performance - mae cynllunio ymlaen llaw yn atal perfformiad gwael) o’r ysgol? Mae’n berthnasol i gyfweliadau hefyd – mae mynd i gyfweliad wedi paratoi’n dda yn sicrhau eich bod yn gallu rhoi’r portread gorau posibl o’ch hun.

Man cychwyn da yw gwneud rhywfaint o waith ymchwil cefndirol ar y cwmni sy’n eich cyfweld chi:

  • Ewch i’w gwefan i gael gwybod beth yw eu gwerthoedd craidd a’r meysydd maen nhw’n arbenigo ynddynt
  • Dysgwch am unrhyw brosiectau allweddol maen nhw’n gweithio arnyn nhw
  • Chwiliwch ar-lein am unrhyw newyddion sy’n ymwneud â’r cwmni

Mae cyflogwyr wir yn gwerthfawrogi pan fydd gennych chi rywfaint o wybodaeth gefndir sylfaenol am y cwmni, gan ei fod yn dangos bod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol ynddyn nhw. Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o dorri’r iâ.

7 Cwestiwn Cyffredin

Er na fyddwch chi’n gwybod yn union pa gwestiynau y byddan nhw’n eu gofyn i chi, gallwch chi fod yn eithaf hyderus eu bod yn dilyn trywydd tebyg. Bydd y gwaith paratoi y byddwch chi wedi’i wneud yn ddefnyddiol hyd yn oed os nad ydych chi’n ateb y cwestiynau hyn yn union.

‘Dywedwch wrthym ni amdanoch chi’

Y cwestiwn cyntaf clasurol. Mae sawl ffordd o’i ateb.

Y peth allweddol yma yw ei gadw’n berthnasol i’r swydd – gallwch chi siarad am rai o’ch hobïau neu’ch diddordebau, ond peidiwch â mynd i fanylder mawr am eich cariad at gathod neu bêl-droed.

Yn hytrach, trafodwch beth wnaeth eich denu at y brentisiaeth. Dywedwch pam rydych chi eisiau gweithio i’r cyflogwr hwnnw, ac unrhyw gyflawniadau sy’n ymwneud â gwaith neu addysg rydych chi’n falch ohonynt. Cadwch bethau’n bersonol, yn agored ac yn onest – mae’n ffordd dda o roi gwybod i’r cyflogwr pa fath o berson ydych chi.

‘Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch chi ...’

Mae’r math hwn o gwestiwn yn cael ei ddefnyddio i weld a oes gennych chi’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y brentisiaeth. Dyma rai enghreifftiau cyffredin: ‘Disgrifiwch adeg pan wnaethoch chi ddangos arweinyddiaeth’, ‘Rhowch enghraifft o adeg pan wnaethoch chi ddefnyddio eich menter’ a ‘Rhowch enghraifft o adeg pan roedd yn rhaid i chi ymdopi â sawl terfyn amser’.

Gallwch chi ddefnyddio enghreifftiau o’ch profiad gwaith neu addysg, ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi pwyslais ar y sgiliau y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt.

'Beth yw eich cryfderau a'ch gwendidau?'

Wrth feddwl am eich cryfderau, ceisiwch eu cysylltu â'r disgrifiad swydd, a rhoi enghreifftiau o sut y dangoswyd y cryfderau hynny. Gall bod yn ymwybodol o’ch gwendidau ymddangos yn llawer anos i’w wneud, ond mae cyflogwyr yn gofyn y cwestiwn hwn gan eu bod eisiau gwybod am lefel eich hunanymwybyddiaeth, a’r potensial sydd gennych chi ar gyfer twf personol mewn swydd.

Ceisiwch ganolbwyntio ar y meysydd hynny o’ch personoliaeth nad ydyn nhw’n adlewyrchu’n wael arnoch chi eich hun ac a fyddai’n gwneud i rywun beidio â’ch cyflogi. Mae’n well dweud, er enghraifft, ‘Rydw i’n ormod o berffeithydd’, na ‘Rydw i’n colli’r gallu i ganolbwyntio’n hawdd’.

‘Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai ...?’

Mae hwn yn gwestiwn sy’n seiliedig ar senario sy’n gallu ymdrin â phynciau fel delio â gwrthdaro mewn tîm neu gyda chleient, cael adborth negyddol, oedi annisgwyl i waith, pibell ddŵr wedi byrstio ac ati.

Nod y cwestiynau hyn yw gweld sut rydych chi’n mynd ati i ddatrys problemau, felly esboniwch eich ffordd o feddwl a pham y byddech chi’n cymryd camau penodol. Os yw’n bosibl, cyfeiriwch at adegau yn y gorffennol pan wnaethoch chi wynebu problemau tebyg a sut arweiniodd eich gweithredoedd at ganlyniad cadarnhaol.

Unwaith eto, gall hyn ddod o brofiad addysg, ac nid oes rhaid iddo fod mewn amgylchedd gwaith.

‘Pa mor dda ydych chi’n ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd?’

Dyma enghraifft o gwestiwn sy’n seiliedig ar gymhwysedd.

Ei nod yw gweld pa sgiliau sydd gennych chi mewn sefyllfaoedd penodol - naill ai yn y gwaith, mewn addysg neu mewn rhannau eraill o'ch bywyd.

Gallwch chi ateb y mathau hyn o gwestiynau drwy ddefnyddio’r fformat STAR (Situation, Tasks, Actions, Results): eglurwch y Sefyllfa, y Tasgau y bu’n rhaid i chi eu cwblhau, y Camau a gymerwyd gennych a Chanlyniadau eich gweithredoedd. Rhowch y pwyslais mwyaf ar Gamau Gweithredu a Chanlyniadau.

‘Beth ydych chi’n teimlo’n angerddol yn ei gylch?’

Mae cwestiynau fel hyn yn rhoi syniad i gyfwelydd o ba fath o bersonoliaeth sydd gennych chi, a pha werthoedd sydd gennych chi. Nid yw hyn yn rhywbeth y gallech chi ei restru ar CV. Efallai ei fod yn ymddangos fel cwestiwn lletchwith i’w ateb oherwydd ei fod yn gwestiwn eithaf personol, ond gall hefyd fod yn gyfle i ymlacio ychydig a gadael iddyn nhw weld pwy ydych chi ‘go iawn’.

Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth teilwng fel gwirfoddoli i elusen. Gallech chi fwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon, neu fynd i’r gampfa – mae’n helpu os gallwch chi gysylltu eich angerdd yn ôl â rhywbeth y gallai’r cyflogwr ei werthfawrogi, fel gwaith tîm, sgiliau trefnu neu gadw’n heini ac yn iach.

'Beth yw eich uchelgais fwyaf?'

Tua diwedd cyfweliad, mae’n bosib y gofynnir cwestiynau fel hyn i chi. Un arall nodweddiadol yw ‘ble ydych chi’n meddwl y byddwch chi ymhen pum mlynedd?’

Mae’r rhain yn cael eu galw’n gwestiynau cymell ac maen nhw’n rhoi syniad i gyflogwyr o'r hyn sy'n ysgogi neu'n cymell ymgeisydd. Os yw rhywun yn swnio’n uchelgeisiol neu os oes ganddo nodau wedi eu diffinio’n glir, bydd hyn yn helpu cyflogwr i wneud penderfyniad am botensial datblygu ymgeisydd.

Gallech chi ateb drwy nodi uchelgais broffesiynol, fel ‘Hoffwn redeg fy nghwmni fy hun erbyn y byddaf yn 40 oed’, neu efallai nod personol fel bod eisiau dechrau teulu. Does dim ateb cywir yma, ond ceisiwch osgoi atebion rhy faterol. Ni fydd cyfwelwyr yn cael eu plesio gydag atebion fel ‘Rydw i eisiau ennill y loteri’ neu ‘Rydw i eisiau cael cartref gwyliau yn y wlad’. 

Gofynnwch gwestiynau i'r cyflogwr

Mae’n bwysig gofyn cwestiynau i’r cyflogwr hefyd, ac mae hyn fel arfer yn digwydd ar ddiwedd y cyfweliad. Gallai cwestiynau godi’n naturiol o’r drafodaeth, ond mae’n arfer da i baratoi rhai cyn mynd i’r cyfweliad. Dyma rai enghreifftiau o rai defnyddiol:

  • Beth mae eich prentisiaid eraill wedi mynd ymlaen i’w wneud?
  • Pa fath o heriau y mae eich diwydiant yn eu hwynebu?
  • Gofynnwch am brif brosiectau’r cwmni, eu cyflawniadau a phethau y maen nhw’n falch ohonyn nhw’n gyffredinol

Yn olaf, diolchwch i’r cyfwelydd am ei amser a dywedwch eich bod chi’n edrych ymlaen at glywed ganddyn nhw.

Dyluniwyd y wefan gan S8080