Facebook Pixel

Sut mae gwaith adeiladu’n gweithio?

Sut mae gwaith adeiladu’n gweithio? Darllenwch ein canllaw sy’n cyflwyno’r broses mewn prosiect adeiladu.

Mae mwy i adeiladu na dim ond yr hyn rydych chi’n ei weld ar safle. Mae pethau’n digwydd y tu ôl i’r llenni hefyd, gan gynnwys cynllunio, marchnata a dylunio. Byddwn yn amlinellu’r broses isod, ond mae’n bwysig gwybod bod llawer o swyddi ar gael i chi ar bob cam o daith prosiect adeiladu.

Sut mae safleoedd adeiladu’n gweithio?

Safle adeiladu yw lle mae’r prosiect yn cael ei adeiladu yn bennaf, boed yn adeilad masnachol, yn ystâd dai neu’n ddarn o seilwaith. Fodd bynnag, efallai y bydd deunyddiau’n cael eu dylunio, neu rannau o’r prosiect yn cael eu gwneud ymlaen llaw a’u gosod at ei gilydd mewn lleoliadau eraill, ac yna’n cael eu cludo i’r safle terfynol.

Bydd amrywiaeth o weithwyr ar safle adeiladu arferol ar unrhyw un adeg. Gallent fod yn labrwyr llaw sy’n adeiladu, yn ogystal â sgaffaldwyr, gyrwyr craeniau, a thrydanwyr, rheolwyr diogelwch sy’n cwblhau asesiadau risg ac yn sicrhau bod pobl yn dilyn polisïau iechyd a diogelwch ar y safle, penseiri sy’n gwneud yn siŵr bod eu dyluniadau’n cael eu deall a’u dilyn... yn y bôn, gallai unrhyw un sy’n ymwneud â’r prosiect fod ar y safle ar yr un pryd. 

Oherwydd y gall safleoedd adeiladu fod yn llefydd prysur, mae’n rhaid i bobl ddilyn protocol iechyd a diogelwch llym. Rhaid i bawb ar y safle fod wedi cael yr hyfforddiant neu’r profiad perthnasol ac yn gallu profi hyn. Mae archwiliadau diogelwch yn cael eu cynnal i sicrhau bod gan bobl ar y safle gardiau adnabod dilys, bod pawb yn y man y dylent fod, a bod pawb wedi’u cyfrifo amdanynt.


Beth yw’r broses adeiladu?

Mae proses i bob prosiect adeiladu, er y gall y rhain amrywio yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei adeiladu neu ar y cleient sydd wedi comisiynu’r gwaith adeiladu. Gadewch i ni edrych ar broses gyffredinol a chyffredin iawn.

Mae’r broses adeiladu’n dechrau gyda’r cleient

Cyn gosod y fricsen gyntaf un (weithiau flynyddoedd cyn hyn) mae cleient yn cael y syniad y tu ôl i’r prosiect adeiladu.

Mae’r cleient yn penodi ymgynghorwyr

Bydd y cleient yn penodi ymgynghorwyr i roi cyngor ar waith dylunio a chynllunio eu prosiect. Mae pobl fel penseiri, cynllunwyr trefi, a hyd yn oed cyfreithwyr yn aml yn rhan o’r broses gan y gallai fod llawer i’w ystyried. 

Rhaid cyfrifo’r costau a chytuno ar yr holl adnoddau a deunyddiau. Gyda llawer o brosiectau yn ceisio bod mor gynaliadwy â phosibl, mae’n debygol y bydd mewnbwn gan ecolegwyr a pheirianwyr amgylcheddol

Bydd ymgynghorwyr wedyn yn ymgymryd â’r gwaith o ddylunio’r prosiect adeiladu, gan gyfrifo faint fydd cost adeiladu’r dyluniad ac ar ôl proses dendro, byddant yn dyfarnu contractwr adeiladu i wneud y gwaith.

Mae’r ymgynghorydd yn cael contractwyr i wneud y gwaith

Rhaid i gontractwyr ‘gynnig’ am y gwaith mewn rhywbeth sy’n cael ei alw’n ‘dendr’. Yn syml, byddant yn cyflwyno achos yn amlinellu pam mai nhw yw’r dewis gorau i gwblhau’r prosiect.

Gallant gynnwys enghreifftiau o brosiectau neu sgiliau tebyg sydd ganddynt a fyddai'n helpu i sicrhau bod y prosiect yn rhedeg yn esmwyth, neu'n cael ei gwblhau i'r safon uchaf, a chadw at y gyllideb.

Efallai y bydd contractwyr yn cael cymorth gan isgontractwyr

Efallai y bydd angen cymorth ar gontractwyr ar rannau mwy arbenigol o’r prosiect. Efallai y byddant yn penodi isgontractwyr gyda sgiliau a gwybodaeth arbenigol ar bethau fel plymio a thrydan neu waith sylfeini. Efallai hefyd y bydd angen ystyried rhai technolegau na all contractwyr traddodiadol eu cwblhau heb gyngor neu gymorth.  


Faint o gymalau sydd yna mewn gwaith adeiladu?

Byddwn yn amlinellu naw cam prosiect adeiladu isod. Maen nhw yn eu trefn er mwyn dangos i chi sut mae prosiect yn datblygu.

1) Cysyniad y prosiect a’i sefydlu

Mae cleient yn cael syniad ac yn cysylltu ag ymgynghorwyr i weld beth sy’n bosibl.

2) Dylunio a chynllunio

Mae’r ymgynghorwyr yn dechrau dylunio a chynllunio’r strwythur, gan ddewis deunyddiau ac amcangyfrif y gost. Gallai hyn hyd yn oed gynnwys Delweddiad 3D o’r dyluniad. Mae’r ymgynghorwyr hyn yn dyfarnu’r prosiect i’r contractwyr gorau ar gyfer y swydd, yn dilyn proses dendro.

3) Gwaith Geodechnegol a chloddio

Dyma pryd mae peirianwyr pridd a pheirianwyr creigiau’n archwilio amodau’r tir lle bydd y strwythur yn cael ei osod i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn addas. Dysgwch fwy am ddod yn geodechnegydd.

4) Dymchwel a dadadeiladu 

Weithiau, cyn y gall gwaith adeiladu ddechrau, mae’n rhaid dymchwel strwythur blaenorol neu rywbeth sy’n atal y gwaith. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gwblhau gan weithwyr dymchwel cymwys.

5) Substructure and superstructure 

Yr is-strwythur yw’r rhan o’r adeilad sydd o dan y ddaear, a’r uwchstrwythur yw popeth sydd uwchben y ddaear. Rhaid i’r is-strwythur allu cynnal yr uwchstrwythur, felly bydd peirianwyr yn cyfrifo’r baich straen ac yn cyfrifo’r ffordd orau o ymgorffori deunyddiau fel trawstiau cynnal neu sylfeini i ddarparu cynhaliaeth ddigonol.

6) Draeniau a chyfleustodau

Rhaid ystyried y rhain er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel at ei ddiben a’r amgylchedd o’i gwmpas. Peirianwyr draenio sy’n gyfrifol am ddylunio’r systemau sy’n draenio dŵr a charthion yn gywir ac yn ddiogel.

7) Adeiladu

Dyma pryd y gall y gwaith adeiladu ddechrau, ar ôl cymeradwyo’r holl faterion uchod, ac ar ôl cadarnhau bod y prosiect mor ddiogel ac effeithlon â phosibl. Gall gynnwys gwaith brics, gwaith trydanol a chladin.

8) Ffitiadau a gorffeniadau

Ar ôl gorffen y strwythur allanol, gellir dechrau ar y gwaith peintio ac addurno, yn ogystal ag unrhyw waith dylunio mewnol. Ar gyfer ystadau tai, byddai hyn yn cynnwys gosod yr holl ystafelloedd ymolchi a’r ceginau.

9) Gweithrediad, trwsio, cynnal a chadw a rheoli

Bydd gweithrediad yr adeilad yn cael ei brofi i wneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben. Bydd unrhyw waith atgyweirio’n cael ei wneud. Unwaith y bydd y strwythur wedi’i gwblhau, mae gwaith cynnal a chadw a rheoli yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr adeilad yn gweithio’n effeithlon ac yn ddiogel.  


Beth yw modd a dull adeiladu?

Mae modd a dull prosiect adeiladu yn cyfeirio at y technegau a’r tactegau a ddefnyddir i gymryd y prosiect o syniad a dyluniad, i strwythur neu ddarn o seilwaith gorffenedig.  

Gan fod llawer o brosiectau’n cael eu cwblhau gan wahanol gontractwyr, bydd un prosiect yn cynnwys sawl modd a dull. Mae contractwyr yn datblygu arddull a dawn unigol yn eu gwaith, a dyna sy’n gwneud y diwydiant yn un mor gyffrous â phob prosiect adeiladu yn unigryw.

Rhagor o wybodaeth am wahanol yrfaoedd adeiladu

Eisiau dechrau arni ym maes adeiladu? Chwiliwch drwy’r gwahanol rolau ar ein safle, neu edrychwch ar brentisiaethau, ffordd wych o ddechrau arni yn y diwydiant. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni ar  Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.

Dyluniwyd y wefan gan S8080