Facebook Pixel

Ynghylch Am Adeiladu

Beth ydy Am Adeiladu?

Mae Am Adeiladu yn cynnig adnoddau i unrhyw un sy’n chwilio am yrfa yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig. Rydym yn arddangos y llu o gyfleoedd gwerth chweil sydd ar gael ac yn helpu pobl o bob cefndir i ymuno â diwydiant cyffrous sy’n tyfu ac sy’n cael effaith enfawr ar dai, diwydiant a seilwaith y DU.

Yn ogystal â’n hadnoddau ar-lein, mae Am Adeiladu hefyd yn estyn allan at bobl sy’n chwilio am gyfleoedd drwy fynd i ddigwyddiadau gyrfaoedd, ymgysylltu â’r wasg a chefnogi cenhadon adeiladu.


Ar gyfer pwy mae Am Adeiladu?

Rydyn ni yma i gefnogi pobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd i gael sgiliau a chyflogaeth, yn ogystal â phobl fwy profiadol sy’n awyddus i newid gyrfa. P'un a ydych chi wedi dewis ymuno â’r diwydiant adeiladu yn barod, neu os ydych chi’n dal i geisio penderfynu a yw’n addas i chi, mae Am Adeiladu’n cynnig gwybodaeth a chyngor ar ddod o hyd i rolau sy’n ennyn boddhad ac sy’n addas ar gyfer eich galluoedd a’ch diddordebau.

Gellir defnyddio ein hadnoddau i arwain a gwneud penderfyniadau gan unigolion, neu i arfogi rhieni a chynghorwyr gyrfa â chanllawiau gwerthfawr sy’n hawdd eu rhannu.

Ar gyfer pwy mae Am Adeiladu??

Sut y caiff Am Adeiladu ei ariannu?

Sut y caiff Am Adeiladu ei ariannu?

Mae Am Adeiladu yn cael ei gefnogi gan Lefi Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), sy'n cael ei ariannu gan gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu - o gwmnïau teuluol i gwmnïau rhyngwladol. Ein pwrpas yw helpu pobl i gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu ac i helpu i ddiwallu angen y sector am weithlu mwy ac sy'n fwy cynrychioliadol. 


Sut y caiff Am Adeiladu ei gefnogi gan ddiwydiant?

Mae ein partneriaid a’n cenhadon yn ein helpu i gyflawni llawer mwy nag y gallem ei wneud ar ein pen ein hunain. Gyda’u gwybodaeth arbenigol a’u cefnogaeth, gyda’n gilydd rydym yn annog pobl o bob cefndir i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Os hoffech chi gefnogi gwaith Am Adeiladu, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Mae'r sefydliadau isod wedi bod o gymorth ymarferol drwy: fod yn bresennol mewn digwyddiadau ymgynghori, cyflwyno cynnwys fel astudiaethau achos, delweddau ac adnoddau, cymryd rhan mewn gweithgorau, arolygon neu gyfweliadau ffôn, profi'r wefan cyn iddi gael ei lansio, rhannu gwybodaeth arbenigol am ddatblygu tudalennau a nodweddion y wefan, hyrwyddo'r prosiect a llawer, llawer mwy.

Dyluniwyd y wefan gan S8080