Facebook Pixel

Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd

Enw’r Gweithgaredd:
Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd 

Disgrifiad o’r Gweithgaredd: 
Mae Her Cymunedau Cynaliadwy CREST yn weithgaredd tîm cyffrous a gwerth chweil lle mae’n rhaid i gyfranogwyr gynllunio datblygiad tai cynaliadwy.

Er mwyn cael y dechrau gorau posibl, rydym yn argymell yn ddelfrydol y dylai’r prosiect ddechrau gydag ymweliad â safle ‘byw’.

Mae angen i fentor gefnogi’r cyfranogwyr yn eu gwaith. Gall y person hwn fod o ddiwydiant neu, fel arall, fod yn arweinydd gweithgareddau neu’n arweinydd grŵp.

Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd
Fideo Gwobr CREST
Maint y ffeil: 73.2MB

Dyma fideo byr yn egluro am Wobrau CREST – Cymunedau Cynaliadwy Lefel Efydd. 

LAWRLWYTHO - Fideo Gwobr CREST

Nod y Gweithgaredd: Nod Gwobrau CREST yw codi ymwybyddiaeth o Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ymysg pobl ifanc, a thynnu sylw at y gyrfaoedd ym maes adeiladu sy’n gysylltiedig â’r pynciau hyn.

Erbyn diwedd y prosiect, dylai cyfranogwyr fod wedi llunio cynnig tîm ar gyfer eu datblygiad tai  ac adroddiad unigol yn pwyso a mesur yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod y broses. Dylent hefyd amlinellu rôl pob unigolyn yn y tîm a sut roedd y rolau’n ategu ei gilydd wrth iddynt ddiffinio a chwblhau cynnig y tîm.

 

Cynulleidfa: (Oed a Argymhellir) 11-16 oed

Maint y Grŵp: Does dim cyfyngiad ar faint y grŵp yn gyffredinol, ond efallai y bydd angen i gwmnïau adeiladu sy’n cynnal ymweliadau safle gyfyngu ar y niferoedd sy’n cael bod ar safle ‘byw’ ar yr un pryd. Cynlluniwch ymlaen llaw i sicrhau bod ymweliadau wedi cael eu cynllunio a’u hystyried yn ofalus.

Rhagor o wybodaeth: I gael manylion llawn am y gweithgaredd, ewch i’r daflen Crynodeb o’r Gweithgaredd, sy’n rhoi gwybodaeth am y canlynol:

  • Paratoi a’r Adnoddau y bydd eu hangen arnoch
  • Cysylltiadau â’r Cwricwlwm/ Sector/ Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Ymestyn
  • Amserlen a Awgrymir

Dogfennau i’w Llwytho i lawr

Llwytho Pob Dogfen i Lawr:

Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Pob Dogfen
Maint y ffeil: 47.4MB

Llwythwch bob dogfen i lawr ar gyfer Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Lefel Efydd.

LAWRLWYTHO - Her Cymunedau Cynaliadwy CREST - Pob Dogfen
Dyluniwyd y wefan gan S8080