Facebook Pixel

Adeiladu ac anabledd

Yn y diwydiant adeiladu, ni ellir gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau - ac mae gan gyflogwyr lawer i'w ennill o gyflogi gweithlu amrywiol.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn pobl ag anabledd tra’u bod nhw’n gyflogai. Mae hyn yn golygu bod gan weithwyr anabl yr un hawliau â gweithwyr nad ydynt yn anabl, megis eu cyflog ac amodau, buddion, cyfleoedd am ddyrchafiad a hyfforddiant.

Mae anabledd yn un o naw ‘nodwedd warchodedig’ y Ddeddf Cydraddoldeb.

A allaf weithio yn y diwydiant adeiladu ag anabledd?

Yn bendant. Os oes gennych y sgiliau cywir i weithio yn y maes o’ch dewis, ac nad yw eich anabledd yn effeithio ar eich gallu i gyflawni eich dyletswyddau, byddwch yn gallu gweithio ym maes adeiladu.

Faint o bobl anabl sy'n gweithio ym maes adeiladu?

Yn ôl arolwg yn 2017, roedd bron i 200,000 o bobl sy’n gweithio ym maes adeiladu yn y DU wedi’u cofrestru’n anabl. Mae hyn yn cyfateb i dros 9% o gyfanswm y gweithlu (ychydig dros 2.1 miliwn o weithwyr). Ond mae hyn yn sylweddol is na'r 20% o oedolion ag anabledd sy'n gallu gweithio.

Beth yw anabledd?

Mae'n gamsyniad cyffredin bod anabledd yn golygu rhywun mewn cadair olwyn. Mae anableddau'n cynnwys namau synhwyraidd, salwch meddwl, awtistiaeth, namau cyfathrebu, problemau cydsymud corfforol a namau ar y cof a chanolbwyntio.


pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu

Manteisiol i bawb

Mae gweithlu amrywiol yn dod â buddion i'r gweithiwr a'r cyflogwr. I bobl ag anableddau, gall swydd ym maes adeiladu ddarparu gyrfa wych am oes.

Yn y cyfamser, mae'r diwydiant yn ennill gweithlu amrywiol o weithwyr uchel eu parch sy'n fedrus yn yr hyn a wnânt - ac a fydd yn aml yn deyrngar iawn i gyflogwr da. Yma rydym yn cymryd golwg agosach ar y pwnc.


Dweud wrth y bos

A ddylai rhywun ag anabledd ddweud wrth y bos amdano? Mae hwn yn gwestiwn y mae llawer o bobl yn ei ofyn iddynt eu hunain – yn enwedig os nad oes modd gweld eu hanabledd.

Er nad oes yn rhaid i weithiwr anabl ddatgelu ei anabledd i’w gyflogwr, os yw’n gwneud hynny bydd yn cael ei ddiogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010

Mae hyn yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwr eu trin yn llai ffafriol na gweithwyr eraill am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig â’u hanabledd, oni bai fod cyfiawnhad dros weithredu o’r fath.  

Mae hefyd yn werth cofio os nad yw cyflogwr yn ymwybodol o anabledd, ni fydd yn gallu gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw gweithwyr anabl dan anfantais ddifrifol wrth wneud eu gwaith.


pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu

Addasiad rhesymol

Yn ymarferol ym maes adeiladu, gall addasiad rhesymol fod mor syml â darparu math penodol o declyn rheoli ar beiriant.

Yn gyfreithiol, gall addasiadau geisio sicrhau, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol, fod gan weithiwr anabl yr un mynediad at bopeth sy’n gysylltiedig â gwneud a chadw swydd ag unigolyn nad yw’n anabl.

Nid yw’n ofynnol i gyflogwr wneud mwy na’r hyn sy’n rhesymol ac mae hyn yn dibynnu, ymysg ffactorau eraill, ar faint a natur y sefydliad.  Mae cyngor ar gael gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.


Iechyd a diogelwch

Ni ddylid byth defnyddio iechyd a diogelwch fel esgus i wahaniaethu, hyd yn oed os nad dyma’r bwriad.

Efallai y bydd angen i gyflogwyr ystyried addasu’r dasg i’w gwneud yn bosibl i weithiwr anabl wneud ei waith yn ddiogel.

Dysgwch fwy am iechyd a diogelwch i bobl anabl


pobl sy'n gweithio ym maes adeiladu

Asesu risgiau

Mae asesiadau risg yn hanfodol yn y diwydiant adeiladu, ond nid oes angen i gyflogwyr gynnal asesiad risg iechyd a diogelwch ar wahân ar gyfer gweithiwr anabl.

Yn hytrach, dylent adolygu’r asesiad risg yn ofalus i wneud yn siŵr ei fod yn rhoi sylw i unrhyw risgiau a allai fod yn bresennol i’r gweithiwr hwnnw a’i gydweithwyr. Efallai y bydd angen wedyn rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw risgiau.

Gall y rhain fod yn syml, fel caniatáu i gydweithwyr eraill gyfrannu at rannau penodol o weithgareddau neu ddarparu offer addas arall.


Cefnogaeth ariannol

Gall unigolyn anabl fod yn gymwys i gael grant Mynediad i Waith i'w helpu i: 

  • Ddechrau gweithio
  • Cadw gwaith
  • Symud i hunangyflogaeth neu ddechrau busnes

Yn y cyfamser, efallai y bydd cyflogwr yn cael cymorth ariannol drwy'r un cynllun i dalu am gostau unrhyw offer newydd sydd ei angen wrth gyflogi rhywun ag anabledd.

Dysgwch ragor am sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Mynediad i Waith 

Dyluniwyd y wefan gan S8080