Facebook Pixel

Am ba mor hir mae prentisiaethau’n para?

Calendar planner for the month of January

Gall gymryd rhwng 1 a 6 blynedd i gwblhau prentisiaethau.

Bydd yr amser sydd ei angen ar gyfer prentisiaeth yn dibynnu ar y math o brentisiaeth rydych chi’n ei dilyn – efallai mai dim ond blwyddyn y bydd rhai prentisiaethau yn ei gymryd, ond efallai y bydd angen rhagor o hyfforddiant ac astudio i gymhwyso’n llawn yn yr yrfa rydych chi’n ei dewis. Pan fydd prentisiaethau’n cyfateb i radd, gall gymryd hyd at chwe blynedd i’w chwblhau. Gall y prentisiaethau hyn fod yn fanteisiol ar gyfer swyddi cystadleuol, fel pensaernïaeth neu beirianneg.

Ffactor arall a fydd yn effeithio ar hyd prentisiaeth yw os ydych chi’n astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser. Bydd yn cymryd cryn dipyn yn hirach i gwblhau prentisiaethau rhan-amser, ond efallai mai dyma’r opsiwn iawn i rai pobl.

Hyd gwahanol brentisiaethau

Dyma fras amcan o’r amser y mae’n ei gymryd i gwblhau gwahanol lefelau o brentisiaethau amser llawn

Lloegr:

  • Prentisiaethau Canolradd (Lefel 2) – 12-18 mis
  • Uwch Brentisiaethau (Lefel 3) – 2-4 blynedd
  • Prentisiaethau Uwch (Lefel 4-7) – hyd at 5 mlynedd
  • Gradd-brentisiaethau (Lefel 6/7) – 3-6 blynedd

Yr Alban:

  • Prentisiaethau Sylfaen – 12-24 mis
  • Prentisiaethau Modern – 2-4 blynedd
  • Prentisiaethau Graddedig – 3-6 blynedd

Cymru:

  • Prentisiaethau Canolradd (Lefel 2) – 12-18 mis
  • Prentisiaethau (Lefel 3) – 2-4 blynedd
  • Prentisiaethau Uwch (Lefel 4-7) – hyd at 5 mlynedd
  • Gradd-brentisiaethau (Lefel 6/7) – 3-6 blynedd

Sawl awr y mae angen ei gweithio bob wythnos?

Mae’n ofynnol i brentisiaid amser llawn weithio rhwng 30 a 40 awr yr wythnos, gan gynnwys amser a dreulir yn astudio neu yn y coleg. Dylai prentisiaid rhan-amser weithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ond gall y prentis a’r cyflogwr gytuno ar yr union oriau ar gyfer prentisiaethau rhan-amser, er budd y naill ochr a’r llall.

Does dim ots beth yw lefel prentisiaeth – mae hawliau prentisiaid o dan gyfraith cyflogaeth yr un fath â gweithwyr amser llawn, ac mae’n berthnasol i ba lefel bynnag o brentisiaeth rydych chi’n ei dilyn. Mae gennych chi hawl i wyliau â thâl ac absenoldeb salwch, a byddwch chi’n talu treth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Prentisiaethau amser llawn yn erbyn rhai rhan-amser

Er mai prentisiaethau amser llawn yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o ddilyn prentisiaeth, efallai nad ydyn nhw’n addas ar gyfer pawb. Dylai cyflogwyr sylweddoli nad yw pob prentis yn 16 neu’n 17 oed. Efallai y bydd angen i rai pobl sydd ag ymrwymiadau domestig eraill weithio ac astudio’n fwy hyblyg; dyna pam ei bod yn bosibl mai prentisiaethau rhan-amser yw’r ateb iddynt.

Bydd yn cymryd mwy o amser i gwblhau prentisiaethau rhan-amser, ond maent yn cynnig hyblygrwydd ac wedi’u haddasu i’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy’n addas i chi. Fodd bynnag, gallai fod yn anodd dod o hyd iddynt, ac nid ydynt yn aml yn cael eu hysbysebu fel rhan o’r broses ymgeisio. Bydd angen i chi drafod yr union delerau ac amodau ar gyfer eich prentisiaeth ran-amser gyda’ch cyflogwr.

Beth os byddaf yn newid fy meddwl yng nghanol y broses?

Weithiau dydy pethau ddim yn mynd yn iawn gyda phrentisiaethau. Efallai y byddwch chi’n sylwi nad yw’r swydd yn addas i chi, neu fod rhesymau personol neu deuluol pam na allwch chi barhau â’r brentisiaeth. Mae’n gwbl dderbyniol gadael prentisiaeth cyn i chi ei chwblhau. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ffioedd na chostau, ac yn dibynnu ar y brentisiaeth efallai y gallwch chi newid eich swydd ond aros ar yr un brentisiaeth.

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau

Os ydych chi’n meddwl bod prentisiaeth yn addas i chi, cymerwch olwg ar y gwahanol lefelau, y gofynion mynediad, yr astudiaethau achos a sut mae gwneud cais.

Dyluniwyd y wefan gan S8080