Facebook Pixel

Sut i wneud cais am swydd yn y Diwydiant adeiladu

Weithiau gall dod o hyd i swydd deimlo fel swydd ynddi’i hun! Felly, rydyn ni wedi paratoi canllaw i’ch helpu i gael gyrfa neu brentisiaeth yn y diwydiant adeiladu.

Rydyn ni wedi troi at bobl sy’n gweithio yn y diwydiant i rannu cyngor a gwybodaeth am y canlynol:

  • Ysgrifennu CVs a cheisiadau am swyddi
  • Manteisio i’r eithaf ar eich sgiliau cyflogadwyedd wrth lenwi ffurflen gais neu wrth ysgrifennu llythyr eglurhaol
  • Sut mae’r broses ymgeisio ar gyfer prentisiaid yn gweithio
  • Beth i'w wneud pan fydd gennych chi gyfweliad
  • Sut gallwch chi barhau i ddatblygu eich sgiliau ar ôl i chi gael swydd.


Datblygu eich sgiliau

Ar ôl i chi gael swydd yn y diwydiant adeiladu, mae’n bwysig eich bod yn cadw eich sgiliau yn gyfoes gan fod y byd gwaith yn newid drwy’r amser. Bydd ennill sgiliau a gwybodaeth ychwanegol hefyd yn eich helpu i symud ymlaen yn eich swydd a bydd yn agor drysau i swyddi neu arbenigeddau newydd ac, o bosib, cyflog uwch.

Mae rhai rolau’n gofyn i chi ymgymryd â phrofion cymhwysedd neu hyfforddiant fel mater o drefn (h.y. cardiau CSCS). Mewn rhai eraill, efallai y bydd cyflogwyr yn cynnig cyfleoedd i fynd ar gyrsiau hyfforddi achrededig neu heb eu hachredu i'ch helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu, dod yn fedrus yn defnyddio rhai peiriannau, dysgu am ddiogelwch safle, ennill sgiliau rheoli neu fwy.

Mae rhai pobl yn dewis parhau i astudio tra byddant mewn swydd, naill ai’n rhan-amser (gyda chaniatâd eu cyflogwr) neu o gwmpas eu swydd amser llawn, er mwyn ennill cymwysterau proffesiynol, fel prentisiaethau uwch neu radd-brentisiaethau neu statws siartredig.

Dyluniwyd y wefan gan S8080