Facebook Pixel

Prentisiaethau Canolradd

Ystyrir bod Prentisiaethau Canolradd (Lefel 2) yn Lloegr yr un lefel â phum cymhwyster TGAU ac fel arfer mae’n cymryd rhwng 12 a 18 mis i’w cwblhau. Bydd eich amser yn cael ei rannu rhwng 80% yn y gwaith ac 20% yn astudio, er y gall hyn amrywio. 

Byddwch chi’n astudio tuag at gymhwyster NVQ Lefel 2. Byddwch chi hefyd yn cael cymhwyster sy’n seiliedig ar wybodaeth fel Diploma a Thystysgrif BTEC. Bydd hyn yn benodol i’r sector a’r swydd rydych chi’n brentis ynddi.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Ganolradd yn Lloegr?

Mae’r gofynion mynediad ar gyfer Prentisiaethau Canolradd yn Lloegr yn amrywio. Mae rhai cyflogwyr yn gofyn am ddau neu fwy o gymwysterau TGAU, ond efallai na fydd angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch. Does gennych chi ddim cymwysterau TGAU Saesneg a mathemateg? Bydd angen i chi ddilyn cymwysterau yn y pynciau hyn fel rhan o’r brentisiaeth. 

Beth yw fy opsiynau ar ôl cwblhau prentisiaeth Lefel 2? 

Ar ôl Lefel 2 yn Lloegr, gallwch chi fynd yn eich blaen i gwblhau Uwch Brentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch. Os nad oes angen y rhain ar gyfer y swydd rydych chi’n chwilio amdani, gallwch chi fynd ymlaen i weithio a chael mwy o brofiad ymarferol. Efallai y bydd mathau eraill o gynlluniau hyfforddi neu fentora ar gael yn eich man gwaith hefyd. 

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.

Dyluniwyd y wefan gan S8080