Facebook Pixel

Uwch Brentisiaethau

Mae Uwch Brentisiaethau (Lefel 3) yn Lloegr yn cyfateb i ddau gymhwyster Safon Uwch. Maen nhw’n ffordd wych o ennill sgiliau yn y gwaith.

Byddwch chi’n cymysgu eich gwaith ag amser astudio. Gall eich cyflogwr drefnu eich bod yn astudio un diwrnod yr wythnos, neu osod eich cyfnodau astudio mewn blociau. Byddwch chi’n cwblhau eich prentisiaeth o fewn dwy i bedair blynedd.  

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais am Uwch Brentisiaeth yn Lloegr? 

Mae'r gofynion mynediad yn amrywio, ond bydd angen o leiaf pum TGAU arnoch gyda graddau 9 i 4 (A* i C), gan gynnwys Saesneg a mathemateg. 

Beth alla i ei wneud ar ôl cwblhau Uwch Brentisiaeth yn Lloegr? 

Gallwch chi ddewis naill ai mynd ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Uwch yn Lloegr, neu ddechrau rhoi eich sgiliau a'ch cymwysterau newydd ar waith. Nid oes angen astudiaeth bellach ar gyfer pob swydd. Efallai y byddai’n well gennych ddal ati i weithio am gyfnod cyn gwneud cymhwyster arall.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.

Dyluniwyd y wefan gan S8080