Facebook Pixel

Prentisiaethau Uwch

Gall Prentisiaethau Uwch (Lefel 4) fod yn NVQ Lefel 4 neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HND). Gallan nhw hefyd fod yn radd sylfaen. Mae rhai yn cynnig y cyfle i symud ymlaen i lefel gradd ôl-raddedig (Lefel 7). 

Gall gymryd hyd at bum mlynedd i gwblhau Prentisiaeth Uwch. Mae swydd barhaol yn disgwyl amdanoch ar ddiwedd llawer o Brentisiaethau Uwch. Os nad yw'r cwmni'n eich recriwtio, byddwch chi’n dal i fod yn ymgeisydd hynod gyflogadwy.  

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Uwch? 

Mae'r gofynion mynediad ar gyfer prentisiaethau uwch yn cynnwys o leiaf pump TGAU gyda graddau A* i C, gan gynnwys Saesneg a mathemateg. Rhwng 9 a 4 yw hyn ar y system raddio newydd.

Efallai y bydd cyflogwyr hefyd yn gofyn am gymwysterau Lefel 3, gan gynnwys Safon Uwch, NVQ, neu BTEC. Mae rhai cyflogwyr yn disgwyl i chi fod wedi astudio pynciau sy’n berthnasol i’r brentisiaeth. Gallai hyn gynnwys gwyddoniaeth neu beirianneg. 

Rydw i wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch. Beth nesaf?

Ar ôl cael Prentisiaeth Uwch yn Lloegr, gallwch chi symud ymlaen i Radd-brentisiaeth, neu gallwch chi ddechrau gweithio’n llawn amser os ydych chi’n teimlo’n barod. Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Uwch, bydd ystod ehangach o swyddi ar gael i chi, na phe baech wedi cwblhau Prentisiaeth Ganolradd yn unig.

Dechrau prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu

Mae prentisiaethau adeiladu yn ffordd wych o ymuno â’r diwydiant. Mae gennym yr holl wybodaeth yma i chi ddechrau arni, o ba swyddi sydd ar gael, i gwis personoliaeth. Bydd y rhain yn eich helpu i ddod o hyd i’r mathau gorau o swyddi sy’n addas i chi, a’r ffordd rydych chi’n hoffi gweithio.

Dyluniwyd y wefan gan S8080