Facebook Pixel

Prentisiaeth Safonol yng Nghymru

Mae’r Brentisiaeth Safonol yng Nghymru wedi cael ei hanelu at y rheini sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau prentisiaeth Sylfaen, sydd ag o leiaf dri TGAU, neu sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol yn y diwydiant. Mae Prentisiaethau Safonol yn gyfle i ennill cymhwyster galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol. Ar yr un pryd ag astudio, byddwch chi’n ennill cyflog wrth ddysgu, gan ddatblygu sgiliau penodol ar gyfer swydd gyda chyflogwr.

Beth yw Prentisiaethau Safonol yng Nghymru?

Mae Prentisiaethau Safonol yng Nghymru yn debyg i uwch brentisiaethau yn Lloegr, ac yn arwain at gymhwyster Lefel 3.

Mae Prentisiaethau Safonol ar gael mewn amrywiaeth eang o swyddi, ac mae’r cymhwyster rydych chi’n ei ennill yn cyfateb i basio dau gymhwyster Safon Uwch neu NVQ Lefel 3. Bydd rhai prentisiaethau ar gael yn Gymraeg – gall y darparwr hyfforddiant roi manylion os oes angen hyfforddiant Cymraeg neu ddwyieithog arnoch chi, neu os oes angen sgiliau siarad neu ysgrifennu Cymraeg arnoch chi.

 

Beth sydd ei angen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Safonol yng Nghymru?

Pasio mewn tri chymhwyster TGAU yw’r gofynion mynediad arferol i gael mynediad i Brentisiaethau Safonol yng Nghymru, ond does dim angen cymwysterau ffurfiol ar rai cyflogwyr.

Pa oedran sydd angen i mi fod?

Gallwch chi wneud cais am Brentisiaeth Safonol yng Nghymru os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru ac nad ydych chi mewn addysg amser llawn.

Faint o Brentisiaethau Safonol sydd ar gael yng Nghymru?

Mae amrywiaeth eang o Brentisiaethau Safonol ar gael yng Nghymru, gyda chyfleoedd mewn sectorau fel Adeiladu a Pheirianneg, Cyfrifeg a Chyllid, Gofal Iechyd, Peirianneg, y Gyfraith, Marchnata a gwerthu, Gwyddorau Naturiol ac Addysgu. Mae’r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael ar wefan llyw.cymru.

Sut bydd Prentisiaeth Safonol yng Nghymru yn datblygu fy ngyrfa?

Gallai Prentisiaeth Safonol yng Nghymru fod yn borth i gyfleoedd di-rif – gallai’r sgiliau ymarferol y byddwch chi’n eu hennill arwain at swydd barhaol yn y maes o’ch dewis, neu’r cyfle i ddatblygu eich sgiliau, eich profiad a’ch gwybodaeth ymhellach mewn Prentisiaeth Uwch neu radd.

Darllenwch sut mae prentisiaeth datblygu rygbi Lefel 3 gydag Undeb Rygbi Cymru wedi helpu Amy i ddatblygu ei diddordeb mewn cael gyrfa ym maes rheoli chwaraeon.

 

Sut mae gwneud cais am Brentisiaeth Safonol yng Nghymru?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn Prentisiaeth Safonol yng Nghymru, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion, gwybodaeth am ofynion mynediad, astudiaethau achos ac i chwilio am swyddi gwag.

Dyluniwyd y wefan gan S8080