Facebook Pixel

Prentisiaethau Uwch yng Nghymru

Mae Prentisiaeth Uwch yng Nghymru wedi cael eu hanelu at y rheini sy’n byw yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau prentisiaeth Safonol, sydd â phum TGAU neu fwy, neu gymhwyster Lefel 3. Mae Prentisiaethau Uwch yn gyfle i fynd â’ch profiad galwedigaethol i lefel uwch ac ennill y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer swyddi penodol. Byddwch chi’n ennill cyflog wrth gael hyfforddiant yn y swydd gyda chyflogwr.

Beth yw Prentisiaethau Uwch yng Nghymru?

Mae Prentisiaethau Uwch yng Nghymru yr un fath â phrentisiaeth lefel uwch yn Lloegr, ac yn arwain at gymhwyster Lefel 4.

Cafodd cymwysterau Prentisiaethau Uwch eu datblygu gan Gynghorau Sgiliau Sector a chyflogwyr, ac maent ar gael mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae'r cymhwyster y byddwch chi’n ei ennill yn cyfateb i HNC, gradd sylfaen neu NVQ Lefel 3. Mae Prentisiaethau Uwch i’w gweld yn fwyaf cyffredin mewn diwydiannau lle mae angen lefel uwch o gyrhaeddiad academaidd a sgiliau technegol.

Bydd rhai prentisiaethau ar gael yn Gymraeg – gall y darparwr hyfforddiant roi manylion os oes angen hyfforddiant Cymraeg neu ddwyieithog arnoch chi, neu os oes angen sgiliau siarad neu ysgrifennu Cymraeg arnoch chi.

Beth sydd ei angen arnaf i wneud cais am Brentisiaeth Uwch yng Nghymru?

Y gofynion mynediad arferol er mwyn cael mynediad i Brentisiaethau Uwch yng Nghymru yw pasio pum TGAU ar raddau 9-4 a chymwysterau Lefel 3 fel Safon Uwch, NVQ neu BTEC Cenedlaethol. Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn mynnu eich bod yn pasio mewn pynciau perthnasol penodol.  

Pa oedran sydd angen i mi fod?

Gan fod y gofynion mynediad ar gyfer Prentisiaethau Uwch yng Nghymru ar Lefel 3, bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr dros 18 oed. Rhaid i chi fyw yng Nghymru, bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU a pheidio â bod mewn addysg amser llawn.

Faint o Brentisiaethau Uwch sydd ar gael yng Nghymru?

Mae ystod eang o gyfleoedd Prentisiaeth Uwch ar gael yng Nghymru, mewn sectorau fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Peirianneg, Marchnata, Gwerthu a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae’n debygol y bydd gan bobl ifanc sydd eisiau datblygu mewn Diwydiannau gyda chymwyseddau technegol fel y meysydd Digidol a TG, Gwyddorau Naturiol, Cyfrifeg a Datblygu Meddalwedd ddiddordeb mewn dilyn Prentisiaeth Uwch. Mae’r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael ar wefan llyw.cymru.

Sut bydd Prentisiaeth Uwch yng Nghymru yn datblygu fy ngyrfa?

Gall gymryd rhwng tair a phum mlynedd i gwblhau Prentisiaethau Uwch, ac ar y diwedd dylech chi fod wedi ennill cymhwyster proffesiynol o bwys a fydd yn eich galluogi chi i wneud cynnydd sylweddol yn eich gyrfa. Er enghraifft, gall Prentisiaeth Uwch ym maes Cyllid arwain yn aml at gymhwyster fel cyfrifydd siartredig. Gallwch chi hefyd symud ymlaen i Radd-brentisiaeth.  

Sut mae gwneud cais am Brentisiaeth Uwch yng Nghymru?

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn Prentisiaeth Uwch yng Nghymru, ewch i wefan prentisiaethau Llywodraeth Cymru i gael rhagor o fanylion, gwybodaeth am ofynion mynediad, astudiaethau achos ac i chwilio am swyddi gwag.

Dyluniwyd y wefan gan S8080