Facebook Pixel

Cydlynydd technegol

Mae cydlynwyr technegol yn ymdrin ag agweddau technegol ar brosiect. Yn dibynnu ar ba faes adeiladu maent yn gweithio ynddo, gallen nhw ddelio ag ymholiadau, helpu i lunio a dehongli diagramau technegol, cynlluniau a gwaith papur, paratoi amserlenni danfon, ac ymdrin â’r gwaith o weinyddu prosiectau.

Cyflog cyfartalog*

£25000

-

£45000

Oriau arferol yr wythnos

38-40

Sut i fod yn gydlynydd technegol

Mae sawl ffordd o ddod yn gydlynydd technegol. Gallech chi ddilyn cwrs prifysgol neu goleg, prentisiaeth neu hyfforddiant yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn gydlynydd technegol i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Prifysgol

Gallech gwblhau gradd mewn pwnc perthnasol i’ch helpu i fod yn gydlynydd technegol, megis: 

  • Astudiaethau adeiladu 
  • Peirianneg sifil 
  • Rheoli safleoedd adeiladu 
  • Amcangyfrifo 
  • Tirfesur.  

Bydd angen 2 - 3 lefel A neu gymhwyster cyfatebol arnoch i astudio gradd. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Os ydych chi’n astudio adeiladu neu grefft gysylltiedig yn y coleg, gallech fynd ymlaen i wneud cais am rôl fel cydlynydd technegol. Efallai y bydd angen i chi gael profiad ar safle neu ennill rhagor o gymwysterau yn y gwaith i’ch helpu i baratoi ar gyfer y rôl hon.  

Prentisiaeth

Gallech chi ddechrau eich gyrfa fel prentis yn y rhan fwyaf o grefftau adeiladu ac wedyn gwneud cais am swydd fel cydlynydd technegol. Neu, gallech wneud cais am brentisiaeth uwch ym maes rheoli adeiladu a chael profiad fel cydlynydd technegol i’ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa. 

Ar gyfer hyn, bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) a lefelau A (neu gymhwyster cyfatebol). 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad blaenorol ym maes adeiladu, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr i gael profiad fel cydlynydd technegol. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i gydlynydd technegol mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella, ac ar ôl i chi gwblhau rhagor o hyfforddiant. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel cydlynydd technegol. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau  

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel cydlynydd technegol:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu 
  • Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog 
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol 
  • Gallu i roi sylw trylwyr i fanylion 
  • Sgiliau gweinyddol cryf 

Beth mae cydlynydd technegol yn ei wneud?

Fel cydlynydd technegol, byddwch yn cefnogi prosiectau adeiladu o safbwynt technegol. O ddydd i ddydd, gallech fod yn llunio ac yn dehongli cynlluniau, diagramau ac amserlenni, yn cydlynu gwaith papur ac yn ymdrin ag ymholiadau. 

Mae swydd cydlynydd technegol yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Ymdrin ag ymholiadau ac adborth gan y cyhoedd a staff 
  • Cysylltu â chleientiaid er mwyn deall eu hanghenion ac adrodd ar gynnydd 
  • Helpu rheolwyr technegol i lunio a rhannu cynlluniau gwaith ac amserlenni 
  • Rheoli dogfennau prosiectau technegol 
  • Cyflawni tasgau gweinyddol 
  • Paratoi cyflwyniadau a’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau 
  • Adolygu costau a rhagolygon prosiectau. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel cydlynydd technegol?

Mae’r cyflog disgwyliedig i gydlynydd technegol yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall cydlynwyr technegol sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £25,000
  • Gall cydlynwyr technegol profiadol ennill hyd at £45,000*.

 Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer cydlynwyr technegol:  

 Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel cydlynydd technegol, gallech symud ymlaen i swydd uwch fel rheolwr prosiect neu gyfarwyddwr. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080