Facebook Pixel

Gosodwr ffenestri

Mae gosodwyr ffenestri yn gosod ffenestri, drysau, ystafelloedd haul a llenwaliau gwydr mewn adeiladau a strwythurau. Efallai y byddan nhw’n gweithio ar eiddo newydd, yn uwchraddio hen ffitiadau, neu’n helpu i adfer adeiladau treftadaeth.

Cyflog cyfartalog*

£15000

-

£25000

Oriau arferol yr wythnos

43-45

Sut i fod yn osodwr ffenestri

Mae sawl ffordd o ddod yn osodwr ffenestri. Gallech chi ddilyn cwrs coleg, prentisiaeth, neu gael hyfforddiant yn y gwaith. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn osodwr ffenestri i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod rhai gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau. 

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallech gwblhau cwrs coleg mewn gwaith saer neu asiedydd i’ch helpu i ennill sgiliau defnyddiol i fod yn osodwr ffenestri.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.
 

Prentisiaeth

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gosod gwydr neu ffenestri i fod yn osodwr ffenestri. Gall y rhain gael eu cynnig gan gwmnïau adeiladu neu ffenestri arbenigol. 

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant. 

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol i fod yn osodwr ffenestri, felly os oes gennych chi gymwysterau TGAU mewn Saesneg a mathemateg neu brofiad blaenorol o waith saer ac asiedydd, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel ‘mêt’ neu gynorthwyydd gosodwr.  

Efallai y bydd eich cyflogwr yn eich helpu i ennill sgiliau yn y gwaith, i'ch helpu i ddod yn osodwr ffenestri. 

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr ffenestri. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV. 

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr ffenestri:  

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sgiliau meddwl yn rhesymegol a mathemateg da 
  • Sylw ardderchog i fanylion 
  • Y gallu i weithio’n dda dan bwysau 
  • Y gallu i weithio’n dda gyda’ch dwylo. 

Cymwysterau


Beth mae gosodwr ffenestri yn ei wneud?

Fel gosodwr ffenestri, byddwch yn gyfrifol am osod ffenestri a drysau mewn cartrefi a busnesau, gan sicrhau bod y ffitiadau’n addas i’r diben ac yn amddiffyn rhag y tywydd. 

Mae swydd gosodwr ffenestri yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Defnyddio offer llaw ac offer pŵer i dynnu hen ffenestri, drysau ac ystafelloedd haul 
  • Mesur lle ar gyfer ffenestri neu ddrysau newydd 
  • Gosod ffenestri a drysau gwydr sengl neu ddwbl 
  • Adeiladu ystafelloedd haul a thai gwydr 
  • Selio ffitiadau i sicrhau eu bod yn amddiffyn rhag y tywydd, a gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau 
  • Gweithio gyda ffitiadau UPVC, metel neu bren 
  • Clirio deunyddiau sydd ar ôl wedi i chi orffen y gwaith. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr ffenestri?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr ffenestri yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gosodwyr ffenestri sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £15,000 
  • Gall gosodwyr ffenestri profiadol ennill hyd at £25,000* 
  • Gosodwyr ffenestri hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gosodwyr ffenestri:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr ffenestri, gallech symud ymlaen i weithio ar brosiectau mwy ac uchel eu proffil, neu symud i rôl fel rheolwr prosiectau neu amcangyfrifwr. 

Gallech naill ai weithio i gwmni adeiladu neu ffenestri, neu sefydlu eich hun fel gosodwr hunangyflogedig. 


Dyluniwyd y wefan gan S8080