Facebook Pixel

Gweithredwr cloddiwr 360

A elwir hefyd yn -

Gyrrwr 360, gyrrwr cloddiwr 360

Mae gweithredwr cloddiwr 360 yn rheoli peiriant cloddio mawr sy’n eistedd ar sail sy’n cylchdroi, sy’n eu galluogi i godi symiau mawr o bridd neu ddeunyddiau eraill, a’u symud i unrhyw le o fewn radiws y cerbyd. Mae gweithredwyr cloddwyr 360 yn defnyddio’r peiriannau hyn i glirio tir ar gyfer datblygiadau newydd fel tai neu ffyrdd a gallent hefyd gloddio sylfeini.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£40000

Oriau arferol yr wythnos

48-50

Sut mae dod yn weithredwr cloddiwr 360

Mae sawl ffordd o ddod yn weithredwr cloddiwr 360. Gallech gwblhau cwrs arbenigol yn y coleg neu brentisiaeth, a chael rhagor o gymwysterau a phrofiad i’ch helpu i symud i’r swydd.

I fod yn weithredwr cloddiwr 360, bydd angen cerdyn Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) dilys arnoch y gallwch ei gael drwy astudio gyda darparwr hyfforddiant.

Mae gan lawer o gyflogwyr ddiddordeb clywed hefyd gan bobl sy'n frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac sy'n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Gallwch gofrestru ar gwrs hyfforddi arbenigol i ddysgu sut i fod yn weithredwr cloddiwr 360, os oes gennych rywfaint o brofiad o weithredu peiriannau a thrwydded yrru lawn.

I gael profiad, gallech astudio ar gyfer Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithredu Peiriannau Adeiladu neu Ddiploma Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig cyn cael hyfforddiant pellach mewn cloddio 360.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • 2 TGAU neu fwy gyda graddau 9 i 3 (A* i D), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 2)
  • 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol (cwrs lefel 3).

Prentisiaeth

Nid oes prentisiaeth benodol ar gyfer gweithredwyr cloddwyr 360, ond gallech ddechrau ar eich gyrfa fel gweithredwr peiriannau dan brentisiaeth ac arbenigo mewn gweithredu cloddiwr 360 yn nes ymlaen.

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd i Weithredwyr Peiriannau, neu NVQ/SVQ Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau. Mae’n cymryd dwy flynedd i gwblhau prentisiaeth ganolradd.

Efallai y bydd angen TGAU (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg) neu gymhwyster cyfatebol arnoch i ddilyn prentisiaeth, ond nid yw pob cyflogwr yn gofyn am gymwysterau ffurfiol.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Gwaith

Os oes gennych brofiad fel gweithredwr peiriannau, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu i gael profiad ar y safle fel gweithredwr cloddiwr 360. Efallai y gall eich cyflogwr eich cefnogi i gael unrhyw hyfforddiant angenrheidiol.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithredwr peiriannau neu weithredwr cloddiwr 360. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Dysgwch fwy am brofiad gwaith

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gweithredwr cloddiwr 360:

  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Sylw da i fanylion
  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Gallu gweithio’n dda gydag eraill
  • Ymwybyddiaeth ofodol dda
  • Gallu gweithredu a rheoli offer.

Beth mae Gweithredwr Cloddiwr 360 yn ei wneud?

Fel gweithredwr cloddiwr 360, byddwch yn gyfrifol am yrru cloddiwr 360 ar safle adeiladu. Ar ddiwrnod arferol gallech chi fod yn cloddio ac yn lefelu tir yn ôl cynlluniau’r safle, ac yn symud gwrthrychau trwm ar y safle. 

Mae swydd gweithredwr cloddiwr 360 yn cynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Gweithredu cloddwyr 360 yn ddiogel
  • Dehongli cynlluniau technegol a chadw at farciau ar y safle a lefelau laser
  • Cynnal archwiliadau rheolaidd o beiriannau
  • Gosod a gweithredu cyfarpar ategol
  • Cloddio sylfeini a lefelu’r tir
  • Dymchwel strwythurau presennol neu dorri concrit
  • Tirlunio i baratoi ar gyfer adeiladu strwythurau newydd
  • Cyflawni gweithrediadau codi sy’n cynnwys deunyddiau mawr
  • Cloddio ffosydd ac afonydd a gosod pibellau i gyflenwi dŵr i adeiladau
  • Cadw at ganllawiau iechyd a diogelwch llym. 

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithredwr cloddiwr 360?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithredwr cloddiwr 360 yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad. 

  • Gall gweithredwyr cloddwyr 360 sydd newydd gael eu hyfforddi ennill oddeutu £17,000 
  • Gall gweithredwyr cloddwyr 360 profiadol sydd â rhywfaint o brofiad ennill hyd at £40,000* 
  • Gweithredwyr cloddwyr 360 hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain. 

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud. 

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithredwyr cloddwyr 360:  

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi. 

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gweithredwr cloddiwr 360, gallech symud ymlaen i fod yn arweinydd tîm neu’n rheolwr peiriannau a threfnu logisteg peiriannau ar safle adeiladu.

Neu, gallech sefydlu eich hun fel gweithredwr hunangyflogedig.


Dyluniwyd y wefan gan S8080