Facebook Pixel

Gwydrwr

A elwir hefyd yn -

Gosodwr gwydr

Mae gwydrwr yn gyfrifol am fesur, gosod a thrwsio gwydr mewn tai, gwestai, siopau a swyddfeydd. Fel gwydrwr, byddai angen i chi ddewis gwydr priodol ar gyfer y dasg dan sylw, tynnu'r hen baenau a rhai sydd wedi torri, a sicrhau bod y gwydr wedi’i selio i ddal dŵr.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£50000

Oriau arferol yr wythnos

43-45

Sut i fod yn wydrwr

Mae sawl ffordd o ddod yn wydrwr. Er nad oes gofynion ffurfiol, gallech ddilyn prentisiaeth, neu wneud cais uniongyrchol i’r rôl hon a chael hyfforddiant yn y gwaith.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni adeiladu neu gwmni ffenestri arbenigol yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant.

Gallech chi gwblhau prentisiaeth ganolradd mewn gosod gwydr neu ffenestri i fod yn wydrwr.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi rywfaint o brofiad sylfaenol, gallech chi wneud cais yn uniongyrchol i gwmni adeiladu neu gwmni ffenestri arbenigol i gael profiad ar safle fel gwydrwr. Mae’n debygol y byddwch yn dechrau fel cynorthwyydd i wydrwr mwy profiadol ac yn symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella ac wrth i chi gael mwy o hyfforddiant.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gwydrwr. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gwydrwr: 

  • Dealltwriaeth o adeiladu
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Gwybodaeth sylfaenol am fathemateg
  • Y gallu i weithio’n dda gyda’ch dwylo.

Cymwysterau


Beth mae gwydrwr yn ei wneud?

Fel gwydrwr, byddwch yn gyfrifol am fesur, gosod a thrwsio gwydr mewn strwythurau. Gallech fod yn gosod fframiau ffenestri, ffenestri to, casys arddangos, cawodydd a mwy.

Mae swydd gwydrwr yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Asesu risgiau
  • Dewis y gwydr priodol
  • Adeiladu’r fframwaith ar gyfer y gwydr
  • Tynnu hen wydr neu wydr wedi torri a’r pwti o’r fframiau
  • Mesur a gosod gwydr newydd
  • Selio’r gwydr a gwneud yn siŵr bod popeth yn dal dŵr
  • Defnyddio craen gyda chwpanau sugno i roi’r gwydr yn ei le
  • Gweithio gyda phlastig neu laminiadau, a dulliau trin sy’n gwneud gwydr yn fwy diogel neu’n gryfach.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gwydrwr?

Mae’r cyflog disgwyliedig i wydrwr yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gwydrwyr sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gwydrwyr hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £35,000
  • Gall uwch wydrwyr ennill £35,000 - £50,000*
  • Gwydrwyr hunangyflogedig sy’n gosod eu cyfraddau cyflog eu hunain.

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf ar gyfer gwydrwyr: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Gyda phrofiad, gallech gymryd rhan mewn prosiectau arbenigol fel gwaith adfer ar eglwysi neu adeiladau rhestredig.

Mae'r opsiynau eraill yn cynnwys symud i faes rheoli safleoedd, amcangyfrif neu ddylunio cynnyrch gwydr.


Dyluniwyd y wefan gan S8080