Gall dewis llwybr gyrfa a chymryd eich camau cyntaf yn y byd gwaith fod yn gyfnod anodd. 


Cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun

Mae bod yn ansicr o'r hyn yr ydych am ei wneud pan fyddwch yn gadael yr ysgol neu'r coleg yn eithaf cyffredin. Ond dyna lle gall cynghorwyr gyrfa, ac Am Adeiladu, helpu. Gallwn eich helpu i ddeall beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau, y mathau o yrfaoedd y gallech fod yn addas ar eu cyfer, a’r cyfleoedd sydd ar gael am rywfaint o brofiad gwaith neu hyfforddiant.  

Gallai adeiladu fod yn addas i chi 

Wrth feddwl pa swydd yr ydych am ei gwneud pan fyddwch yn gadael yr ysgol, mae'n bwysig cael cyngor ac arweiniad gyrfa. Os yw adeiladu yn ddiwydiant rydych chi’n meddwl a allai fod yn addas i’ch sgiliau a’ch diddordebau chi, gall Am Adeiladu roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am https://www.goconstruct.org/cy-gb/dechrau-arni-ym-maes-adeiladu/yrfa ym maes adeiladuhttps://www.goconstruct.org/construction-careers/.   

Mae amrywiaeth ehangach o swyddi ym maes adeiladu nag y byddech wedi’u hystyried. Mae’n golygu mwy na dim ond gweithio ar safle adeiladu! Chwiliwch drwy ein swyddi i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud yn y diwydiant adeiladu. Gallech fod yn dylunio adeiladau, gan sicrhau eu bod wedi’u hadeiladu’n gywir neu hyd yn oed helpu i’w hadfer.  

Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael

Mae llawer o adnoddau defnyddiol ar gael yn Am Adeiladu i'ch helpu i ddysgu mwy am fyd gwaith a gyrfaoedd ym maes adeiladu.  

Cwis personoliaeth  

Os ydych chi eisiau gwybod pa fath o swydd fyddai’n addas i chi, mae gan Am Adeiladu gwis personoliaeth y gallwch chi ei wneud. Mae hwn yn gwis cŵl iawn sy’n gofyn cwestiynau am y sioeau teledu rydych chi’n eu hoffi, beth fyddech chi’n ei wneud mewn apocalyps sombi, eich hoff apiau a phwy fyddech chi’n hoffi petaent yn eich dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol – Cristiano Ronaldo neu Dwayne ‘the Rock’ Johnson? Ar y diwedd, byddwch yn gweld pa fath o bersonoliaeth gyrfa ydych chi! 

Sut beth yw gweithio ym maes adeiladu? 

Does dim byd gwell na chlywed gan bobl go iawn sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu o ddydd i ddydd. Sut beth yw bod yn Syrfëwr Meintiau, Peiriannydd Sifil, Technegydd CAD neu Reolwr Safle? Sut aethon nhw i’r byd adeiladu, pa gymwysterau oedd ganddyn nhw a pha gymwysterau wnaethon nhw eu hennill? Darllenwch y straeon hyn gan bobl sy’n gweithio mewn swyddi ym maes adeiladu ledled y DU. Dysgwch y cawsant eu troed i mewn yn y diwydiant, beth maen nhw’n ei wneud ac awgrymiadau ar weithio yn eu meysydd.    

Rhowch gynnig ar ein cwis gyrfaoedd  

Dydy dod o hyd i lwybr gyrfa ddim yn hawdd, ond os oes gennych chi ddiddordeb yn y diwydiant adeiladu, mae gan Am Adeiladu https://www.goconstruct.org/construction-careers/what-jobs-are-right-for-megwis archwilio gyrfahttps://www.goconstruct.org/cy-gb/gyrfaoedd-adeiladu/pa-swyddi-syn-briodol-i-mi/ i ddod o hyd i rôl sy’n addas i’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch cymwysterau. Mae’n gofyn cwestiynau fel:   

  • Ble hoffech chi weithio yn fwy nag unman arall?  
  • Pa feysydd gwaith sydd fwyaf o ddiddordeb i chi?  
  • Pa sgiliau a chymwysterau sydd gennych chi?  

Dechrau gyda phrentisiaeth

Mae prentisiaeth yn swydd go iawn sy'n cynnwys hyfforddiant. Mae cannoedd o brentisiaethau gwerth chweil ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu. Mae’r rhan fwyaf o yrfaoedd i grefftwyr – plymio, trydanol, gosod brics a phlastro, er enghraifft – yn dechrau gyda phrentisiaeth. Ond efallai nad ydych chi wedi clywed am lawer o bethau eraill, fel simneiwyr, cadwraeth neu dwnelu. Mae prentisiaid yn cyfuno hyfforddiant â gwneud y gwaith, a’r peth gorau amdano, rydych chi’n cael eich talu!  

Mae hyfforddeiaethau yn gyrsiau byr sy’n eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac yn adeiladu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer prentisiaeth. Maent yn gyfuniad o ddysgu a phrofiad gwaith ac nid oes angen cymwysterau sy’n uwch na TGAU i’w gwneud.  


Dewisiadau gyrfa ym maes adeiladu

Y peth pwysig i’w gofio yw bod gennych gymaint o ddewisiadau ar gael i chi wrth i chi adael yr ysgol uwchradd neu’r coleg. Dysgwch sut mae dechrau arni ym maes adeiladu heddiw.