Hawick yw’r dref fwyaf yng Ngororau’r Alban. Saif lle mae Afon Teviot a Slitrig Water yn dod at ei gilydd, a dyna pam mae’r prosiect adeiladu presennol yn y dref mor bwysig. Mae tref Hawick yn dioddef llifogydd sylweddol yn aml ac mae angen ei hamddiffyn.

Mae Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Hawick yn enghraifft wych o sut mae’r diwydiant adeiladu o fudd i gymdeithas - am ei fod yn diogelu ein cartrefi, ein trefi, ac yn diogelu eu dyfodol. Darllenwch sut y sefydlwyd y prosiect hwn a’r cynlluniau i wella’r dref, yn ogystal â dathlu ei hanes.

Llun o gynllun amddiffyn rhag llifogydd Hawick

Hanes llifogydd yn Hawick

Mae Hawick wedi’i lleoli ar gydlifiad (cyffordd) Afon Teviot a Slitrig Water, ac mae wedi’i hamgylchynu gan dir amaethyddol, sy’n lle perffaith i redeg ei melinau glan afon a’i ffatrïoedd tecstilau. Y dref hon yw un o’r trefi cynhyrchu tecstilau mwyaf blaenllaw yn y wlad, ac mae ganddi enw da yn fyd-eang am ansawdd a dyluniad. 

Yn anffodus, mae rhan arwyddocaol o hanes y dref hefyd yn ymwneud â llifogydd. Mae hyn yn mynd yn ôl cyn belled ag 1767, ond yn fwy diweddar yn ystod y gaeaf 2015/16 gwelodd Hawick lifogydd ddwywaith, a chafodd cannoedd o adeiladau yn y dref eu difrodi a chafodd rhan o’r ffordd ei golchi i ffwrdd yn gyfan gwbl. 

Mae llifogydd sylweddol eraill wedi difrodi cartrefi, gan olchi waliau ymaith a difrodi ffyrdd. Mae caeau rygbi a phêl-droed enwog y dref ym Mharc Mansfield hefyd wedi bod o dan y dŵr yn gyfan gwbl ar sawl achlysur. 

Y prosiect

Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd llifogydd yn debygol o ddod yn fwy cyffredin yn y blynyddoedd nesaf, ac mae angen rhoi mesurau gwarchodaeth ac ataliol ar waith yn Hawick yn fuan. Mae Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) wedi nodi fod Hawick mewn perygl difrifol o ragor o lifogydd yn y dyfodol ac mae wedi rhoi’r dref ar ei rhestr flaenoriaeth ar gyfer cymryd camau i leihau’r risg. 

Penodwyd Mclaughlin & Harvey Cyf, cwmni adeiladu â swyddfeydd yn Glasgow a Chaeredin (yn ogystal â dinasoedd eraill yn y DU), i fod y prif gontractwr ar gyfer Cynllun Amddiffyn rhag Llifogydd Hawick ym mis Mai 2020. Gyda chost o £88m, y prosiect hwn yw’r fwyaf i gael ei gyflawni yn yr Alban, a bydd y cynllun yn cael ei rannu’n bedair rhan: 

  • Adeiladu 6km o amddiffynfeydd rhag llifogydd gan gynnwys waliau, arglawdd a phontydd
  • Creu ‘rhwydwaith teithio llesol’ newydd o lwybrau troed a llwybrau beicio heb draffig
  • Uwchraddio cefnffordd yr A7, yn Commercial Road, i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y lefelau newydd o draffig
  • Gosod gorsaf bwmpio dŵr gwastraff capasiti uchel newydd yng ngwaith trin y dref er mwyn lliniaru'r risg o lifogydd carthion ymhellach os bydd llifogydd yn y dyfodol

Daw’r cyllid ar gyfer y prosiect gan gyrff amrywiol, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban, SBC, SUSTRANS a Scottish Water. 

Dyluniad

Roedd y gwaith o ddylunio prosiect mor fawr yn cynnwys cyfuno cyfres o fesurau atal llifogydd i gefnogi a gwella seilwaith presennol y dref. Mae’n cynnwys gwella pontydd a llwybrau troed yn ogystal â mynediad newydd sbon i’r cyhoedd, gyda mannau gwyrdd newydd yn nodwedd bwysig. Roedd llawer o drigolion y dref yn teimlo’n gryf y dylid osgoi difetha golygfeydd o’r afon gymaint ag y bo modd gan ei bod yn rhan mor bwysig o dreftadaeth y dref.   

Diogelu’r amgylchedd

Mae Afon Teviot a Slitrig Water yn safleoedd gwarchod natur sy’n cael eu gwarchod yn gyfreithiol. Mae’r afon yn gartref i rywogaethau pysgod pwysig, gan gynnwys eog yr Iwerydd a llysywen bendoll y môr. Mae’r ardal gyfagos yn cynnwys rhywogaethau mamaliaid gwarchodedig, fel dyfrgwn, moch daear ac ystlumod, yn ogystal â nifer fawr o adar sy’n nythu. 

Dyna pam y cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol cyn dechrau unrhyw waith adeiladu. Ar ben hynny, yn ystod y camau cynllunio, ymgynghorwyd â chyrff statudol i sicrhau bod yr holl bryderon perthnasol yn cael eu codi a’u datrys cyn gynted â phosibl. Roedd y rhain yn cynnwys: 

  • Treftadaeth Naturiol yr Alban (SNH)
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)
  • Amgylchedd Hanesyddol yr Alban (HES)
  • Comisiwn Afon Tweed

Bydd y cyrff hyn yn bresennol ar y safle drwy gydol y gwaith adeiladu hefyd.  

Gwnaed ystyriaethau hanfodol eraill ar gyfer sŵn ac ansawdd dŵr wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo. Er mwyn lleihau unrhyw effeithiau sŵn, cyfyngir ar yr oriau gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 7pm, ac ni chaniateir ymgymryd ag unrhyw waith dros y penwythnos oni bai fod ‘amgylchiadau eithriadol’.

Dathlu celf

Diben y prosiect hwn yn bennaf, wrth gwrs, yw amddiffyn Hawick rhag llifogydd a difrod. Fodd bynnag, mae cynlluniau hefyd i wella’r dref, a’i gwneud yn lle cyffrous i fyw ac ymweld â hi. Mae’r Artist Prosiect, Andrew Mackenzie, a gefnogir gan CABN (Rhwydwaith Busnes y Celfyddydau Creadigol), sy’n rhan o Live Borders, yn gyfrifol am gydlynu cyfres o waith celf cyhoeddus ar hyd llwybr yr amddiffynfeydd rhag llifogydd. Ac yntau'n cael ei ysbrydoli gan gariad yr ardal leol at natur, mae ganddo lawer o syniadau. 

Bydd 80 panel gwylio gwydr mawr, gyda rhai’n cael eu rhoi gyda'i gilydd i greu ffenestri 5m o hyd, yn cael eu gosod yn y waliau atal llifogydd. Bydd 30 o’r rhain yn cynnwys ysgythriadau o ‘fapiau afon’ a ddyluniwyd gan yr artist Gill Russell. Bydd gwaith y bardd o’r Alban, Alec Finlay, yn cael ei osod ochr yn ochr â’r mapiau hyn, gan ddefnyddio iaith ac enwau lleoedd lleol sy’n cysylltu’n gryf â threftadaeth Hawick.  

Bydd yr isafonydd sydd wedi’u cynnwys ym mapiau Russell hefyd yn cael eu marcio drwy blannu coeden newydd ar lan y rhan benodol honno o’r llwybr. Mae hyn yn rhan o’r addewid i blannu coed yn lle'r rhai y mae’n rhaid eu tynnu yn ystod y gwaith adeiladu.  

Mae syniadau eraill yn cynnwys lluniau o ysgolion lleol ac arddangosfeydd rheolaidd gan artistiaid lleol wrth i amser fynd yn ei flaen. Hefyd, yn dilyn pleidlais gyhoeddus, bydd y geiriau “slippery as a baggy up a border burn” yn cael eu gosod mewn llythrennau bras ar wal bresennol Afon Teviot ger y North Bridge er cof am Bill McLaren, ‘llais rygbi’.   

Sut i ddechrau gyrfa ym maes adeiladu

I ddysgu mwy am y prosiect adeiladu cyffrous hwn, ewch i hawickfloodscheme.com lle bydd y newyddion diweddaraf yn cael eu rhannu.  

Gallech chi weithio ar brosiect fel hwn os byddwch yn dechrau gyrfa ym maes adeiladu. Gallwch edrych ar eich opsiynau yma, gan gynnwys dysgu sut mae ymuno â’r diwydiant drwy hyfforddiant, prentisiaethau neu brofiad gwaith.  

Ddim yn siŵr ble i gychwyn? Edrychwch ar ein cwis personoliaeth i’ch helpu i ddiffinio’r rolau sydd fwyaf addas i chi.