Kieron Blake

Yn ein cyfres barhaus o broffiliau Mis Hanes Pobl Ddu, buom yn siarad â Kieron Blake, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y cwmni adeiladu blaenllaw BAM. Gan weithio fel rhan o dîm Canolfan Arbenigedd Amrywiaeth a Chynhwysiant BAM y DU ac Iwerddon, mae gan Keiron gyfoeth o wybodaeth o gefndir cryf ar Amrywiaeth a Chynhwysiant (AaC) mewn gwahanol sectorau.

 

A allwch chi ddweud wrthym am eich cefndir a sut y gwnaethoch chi ddod i ymwneud â'r diwydiant adeiladu yn y lle cyntaf?

Kieron: “Rwy’n angerddol dros greu amgylchedd Gwaith diogel a chynhwysol, gan sicrhau bod y nodweddion gwarchodedig ar flaen ymdriniaeth AaC BAM. Yn fy swydd flaenorol, roeddwn yn gweithio mewn rôl AaC mewn elusen dai. Wrth i’m contract ddod i’w ben, gwelais rôl AaC yn BAM ac es amdani. Nid oeddwn erioed wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu o’r blaen, felly roedd hon yn her wirioneddol yr oeddwn am achub arni.”

 

Allwch chi rannu rhai enghreifftiau o brosiectau neu fentrau lle rydych chi wedi chwarae rhan arwyddocaol neu wedi cael effaith gadarnhaol ar eich tîm neu gwmni?

Kieron: “Yn fy rôl bresennol, rwy’n gyfrifol am ein Rhwydweithiau Cynhwysiant. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae BAM wedi datblygu Rhwydweithiau Pobl a grwpiau Adnoddau Gweithwyr sy’n canolbwyntio ar Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein strwythur blaenorol ar draws busnesau BAM Construct, BAM Nuttall a BAM Ireland. Mae’r rhwydweithiau hyn wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth addysgu a sbarduno newid i’n cydweithwyr ar bynciau cydraddoldeb rhyw, byw gydag anabledd, bod yn ofalwr, hil ac ethnigrwydd, LHDTC+ a bod yn gynghreiriad.

Rwyf hefyd yn un o hyfforddwyr BAM sy’n hwyluso’r cwrs D&I Fundamentals. Nod y cwrs yw rhoi ymwybyddiaeth sylfaenol i weithwyr BAM o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant â ‘chysyniad llu cyfan’ o gynhwysiant yn y gweithle.”

 

Yn eich barn chi, beth yw manteision cael gweithlu amrywiol yn y diwydiant adeiladu?

Kieron: “Mae amrywiaeth yn allweddol o ran gyrru gwerthoedd busnes. Yn BAM, un o’n gwerthoedd craidd yw Cynhwysiant. Rydym yn credu mewn creu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Croesawu amrywiaeth a gwahodd gwahanol safbwyntiau yw sut yr ydym yn ehangu ein cynhyrchiant a chreadigedd. Mae hefyd yn bwysig adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn oherwydd mai ein gwahaniaethau yn ein gwneud ni’n gryfach.”

 

Ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau neu welliannau cadarnhaol yn y diwydiant o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod eich gyrfa?

Kieron: “Mae angen i’r diwydiant adeiladu barhau i chwilio am gyfleoedd i gyflogi pobl heb brofiad penodol ond sydd â galluoedd a sgiliau trosglwyddadwy. Yn 2022, er enghraifft, ymgysylltodd BAM â’r sefydliad 10,000 o Interniaid Du, gan gynnig chwe chyfle am leoliad â’r cwmni ar draws Gogledd Lloegr. Roedd hyn yn cynnwys pedair rôl mewn Peirianneg, un mewn Tirfesur ac un mewn Cyn-adeiladu.

 

Sut gall cwmnïau a sefydliadau adeiladu ddenu a chadw talent o gefndiroedd ethnig amrywiol yn well? 

Kieron: “Mae tair ffordd amlwg y gall cwmnïau a sefydliadau adeiladu ddenu a chadw talent o gefndiroedd ethnig amrywiol yn well.

  • Dylent feithrin perthynas â chwmnïau recriwtio sydd â mynediad at grwpiau amrywiol a chronfeydd talent.
  • Dylai timau AD ysgrifennu disgrifiadau swydd cynhwysol a chynnal cyfweliadau cynhwysol â’r naws gywir, gan ofyn y cwestiynau cywir.
  • Dylai fod mwy o gynwysoldeb mewn prosesau AD. Dylai Rhwydweithiau Cynhwysiant a Grwpiau Adnoddau Cyflogeion weithio mewn partneriaeth â gwahanol adrannau o’u sefydliad ar bolisïau a gweithdrefnau perthnasol. Er enghraifft, cydnabod y bydd Rhwydweithiau Cynhwysiant yn adolygu polisïau AD i sicrhau nad oes unrhyw ragfarn neu wahaniaethu anuniongyrchol.”

Wedi eich ysbrydoli? Rhannwch eich straeon am weithwyr adeiladu proffesiynol dylanwadol heddiw.

Os ydych chi eisiau tynnu sylw at rywun ym maes adeiladu sydd wedi eich ysbrydoli, neu i rannu eich profiad o amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant, cysylltwch ag Am Adeiladu.