Pam nad oes angen gradd arnoch i lwyddo yn y diwydiant adeiladu

Mae Jack Cook yn egluro ei fod yn siŵr pan adawodd yr ysgol nad oedd mynd i’r brifysgol yn addas iddo. Mae prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu wedi arwain at yrfa mae’n falch iawn ohoni – ac mae yma i ddangos sut gallai fod yn ddewis perffaith i bobl eraill hefyd. 

Yn Am Adeiladu rydyn ni’n helpu i hyrwyddo’r diwydiant adeiladu amrywiol, ac yn dangos yr yrfa gwerth chweil y gallech chi ei chael. Dyma un o nifer o straeon am y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant.

Pam nad oes angen gradd arnoch i lwyddo yn y diwydiant adeiladu

Yn amlwg, mae cymwysterau ar lefel gradd yn chwarae rhan fawr o ran hyfforddi rhai rolau pwysig iawn yn ein diwydiant, fel penseiri a pheirianwyr sifil. Ond pan adewais i’r ysgol, roeddwn i’n berffaith siŵr nad astudio Safon Uwch a mynd i’r brifysgol yn llawn amser oedd y llwybr i mi. Rwy’n teimlo y gallaf ddangos drwy fy llwybr gyrfa nad oes angen gradd arnoch o reidrwydd i lwyddo yn y diwydiant adeiladu.  

Pan adewais yr ysgol ychydig dan 9 mlynedd yn ôl, ymunais â’r diwydiant adeiladu drwy’r llwybr prentisiaeth, gan ddilyn prentisiaeth gwaith coed a saernïaeth gydag F. Parkinson Cyf. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth hon, cefais fy nghyflogi gan fy nghyflogwr presennol fel saer coed amser llawn. Tra roeddwn yn gweithio fel saer coed ar y safle, cefais gyfle gan fy nghyflogwr i astudio am gymhwyster lefel HNC, a fyddai wedyn yn fy helpu i symud ymlaen i rôl broffesiynol yn gweithio yn y swyddfa yn y dyfodol. 

Ar ôl gweithio am gyfnod byr yn y swyddfa, cynigiodd fy nghwmni rôl i mi fel amcangyfrifwr dan hyfforddiant, lle’r oeddwn yn dilyn cynllun hyfforddi gyda’r gobaith o symud ymlaen i rôl amcangyfrifwr. Ar ôl cwblhau’r cynllun hyfforddi hwn yn 2019, rwyf wedi bod yn gweithio fel amcangyfrifwr i F. Parkinson; yr un cwmni lle dechreuodd fy nhaith fel prentis pan oeddwn yn 16 oed.

Er fy mod wedi cwblhau cymhwyster lefel uwch ar ôl fy mhrentisiaeth, hyd heddiw dydw i ddim wedi cwblhau gradd amser llawn yn y brifysgol, ac mae’n debyg na wna i byth. Er nad oes gen i radd lawn, rwyf wedi sefydlu gyrfa wych o fod yn saer coed dan brentisiaeth ar ôl gadael yr ysgol, i fod yn amcangyfrifwr adeiladu lle rydw i’n prisio gwaith sy'n werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. 

At hynny, os byddwch chi’n siarad â nifer o arweinwyr proffesiynol yn ein diwydiant, bydd llawer ohonyn nhw sydd erioed wedi dilyn cwrs gradd ond sy’n dal i lenwi rhai o’r rolau pwysicaf yn y diwydiant adeiladu. Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod rheolwr gyfarwyddwr fy nghwmni F. Parkinson wedi dod o gefndir fel prentis ei hun, ac mae hynny’n rhoi cryn hyder i mi y gallaf innau ymgymryd â rôl debyg yn y dyfodol os daliaf ati i weithio’n galed.

Rwy'n gobeithio bod hyn yn dangos bod modd llwyddo yn y diwydiant adeiladu heb fod angen gradd bob amser. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i ddechrau yw’r pethau syml; cyrraedd ar amser, gwrando, a gweithio’n galed bob dydd. Gwnewch hynny, a gallaf eich sicrhau na fyddwch yn mynd yn bell o’ch lle o ran torri eich cwys yn y diwydiant adeiladu. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â mi.  Rwyf bob amser yn hapus i geisio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy fy rôl fel amcangyfrifwr ac aelod o G4C.

Diolch yn fawr am ddarllen, 

Jack Cook

Twitter – @jcook95 

LinkedIn – Jack Cook