Pam nad yw’r term BAME yn cael ei ddefnyddio mwyach

Mae’n siŵr eich bod wedi dod ar draws y term ‘BAME’ fel term torfol i ddisgrifio pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Mae wedi cael ei ddefnyddio’n aml ers y 1990au ac rydyn ni wedi’i ddefnyddio yn Am Adeiladu.

Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cryn drafod ynghylch a yw ‘BAME’ yn dal yn addas i’r diben. Mae nifer o sefydliadau blaenllaw, fel y BBC a Gov.uk, wedi rhoi’r gorau i’w ddefnyddio ac wedi cyhoeddi eu rhesymau dros hynny.

Yma, rydyn ni’n egluro mwy am yr hyn sydd wedi digwydd i ‘BAME’, a sut gall adeiladu ac ethnigrwydd gael eu gwasanaethu’n well gan fath gwahanol o iaith o bosib.

 

Beth oedd tarddiad ‘BAME’?

Daeth yr acronym BAME o Gyfrifiad 1991 y DU fel ffordd o ddosbarthu a grwpio pobl nad oeddent yn perthyn i’r grŵp ethnig gwyn. Y prif ddosbarthiadau heb fod yn wyn oedd Du-Caribïaidd, Du-Affricanaidd, Du-Arall, Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Tsieineaidd. Roedd pobl o gefndir ethnig nad oedd yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau hyn yn cael eu rhestru fel ‘unrhyw grŵp ethnig arall’. Dechreuodd ‘Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol’, wedi’i dalfyrru i BAME, gael ei ddefnyddio fel term torfol i ddisgrifio pobl nad oeddent yn ystyried eu hunain yn Wyn.

 

Pam nad yw’r term ‘BAME’ yn cael ei ddefnyddio mwyach

Wrth i boblogaeth y DU dyfu o ran amrywiaeth, ac wrth i’r angen i gydnabod cymeriad unigryw grwpiau ethnig leiafrifol sy’n cael eu tangynrychioli ddod yn bwysicach, mae’r term ‘BAME’ wedi cael ei ddefnyddio llai a llai. Roedd bob amser yn derm a oedd yn cael ei ddefnyddio fwy fel math o gategoreiddio gan wleidyddion, swyddogion a’r cyfryngau nag fel rhywbeth yr oedd lleiafrifoedd ethnig yn uniaethu’n gadarnhaol ag ef eu hunain; yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd awgrymiadau nad oedd cynildeb i ‘BAME’ ac, mewn gwirionedd, ei fod yn gwneud anghymwynas ag ethnigrwydd, cenedligrwydd a diwylliannau unigol. Roedd yn diffinio pobl yn ôl yr hyn nad ydynt i raddau mwy na’r hyn ydynt.

Gyda chynnydd yr ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys a straeon y genhedlaeth Windrush, teimlwyd bod profiad lleiafrifoedd ethnig o anghyfiawnder a gormes yn gofyn am fath newydd o iaith.

 

Terminoleg amgen

Er nad yw ‘BAME’ yn cael ei ddefnyddio gan lawer o sefydliadau mwyach, nid yw wedi cael ei gyfnewid am label arall. Ar ôl rhoi’r gorau i ddefnyddio BAME, dyma’r termau mwyaf cyffredin o ddisgrifio pobl o gefndiroedd ethnig heb fod yn wyn ar y cyd:

  • Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Du, Asiaidd a grwpiau ethnig leiafrifol
  • Du, Asiaidd a grwpiau ethnig
  • Du, Asiaidd ac ethnigrwydd amrywiol

 

Argymhellion a'r arferion gorau

Ar wefan Am Adeiladu, efallai y byddwch yn dal i weld cyfeiriadau hanesyddol at BAME, mewn dyfyniadau a briodolir ac enwau sefydliadau, ond lle bo’n bosib ni fyddwn yn defnyddio’r term BAME mwyach. Yn lle BAME, byddem yn argymell ei ddisodli gyda’r termau amgen uchod, neu os ydych yn disgrifio ethnigrwydd unigol, gan ddefnyddio’r term mwy penodol, e.e. Du Prydeinig, neu Asiaidd Prydeinig.

 

Darllen pellach

Dysgwch fwy am sut gallwch chi helpu i wneud y diwydiant adeiladu’n fwy amrywiol heddiw

Dysgwch fwy am yr hyn mae’r diwydiant adeiladu yn ei wneud i wella amrywiaeth ethnig yn y diwydiant, a’r rhwydweithiau sydd ar gael i gefnogi a hybu amrywiaeth ym maes adeiladu.