Arhosais yn yr ysgol ar ôl i mi orffen fy arholiadau TGAU ac yna cwblhau arholiadau Lefel A mewn Astudiaethau Cyfrifiadurol, Busnes a TGCh, ynghyd â Bagloriaeth Cymru.

Ar ôl hynny, ymunais â Kier fel Hyfforddai Rheoli, a oedd yn golygu y gallwn hefyd astudio am radd mewn Adeiladu a Rheolaeth Fasnachol tra’r oeddwn yn gweithio.

Mae cymaint o amrywiaeth, a chymaint o wahanol rolau adeiladu, fel bod rhywbeth i bawb.

Case study
Category Information
Lleoliad Y Barri
Cyflogwr Kier Construction

I ba gwmni ydych chi’n gweithio nawr?

Rydw i’n dal i weithio ym maes adeiladu gyda Kier Construction – maen nhw’n brif gontractwr sy’n adeiladu ac yn adnewyddu prosiectau ar gyfer cleientiaid yn y sector preifat a chyhoeddus.

Fyddwch chi ddim yn cael teimlad go iawn o’r hyn mae’r swydd yn ei olygu a’r rolau eraill sydd ar gael nes i chi ddechrau gweithio mewn diwydiant.

Amy Griffiths

Rheolwr Safle Cynorthwyol

Beth yw uchafbwynt eich diwrnod?

Byddai’n rhaid i mi ddweud mai fy uchafbwynt i yw’r cyfarfod boreol rwy’n ei gael gyda goruchwylwyr yr is-gontractwyr. Rydyn ni’n dod at ein gilydd am ryw chwarter awr yn y bore i drafod y cynlluniau ar gyfer y diwrnod a faint o weithwyr o bob crefft fydd ar y safle. Yn y cyfarfod hwn byddwn hefyd yn trafod unrhyw faterion mynediad, materion dylunio ac ymholiadau cyffredinol eraill ac yn gweld a allwn eu datrys yn y fan a’r lle fel bod pob goruchwyliwr yn gwybod yn iawn beth yw eu nod ar gyfer y diwrnod hwnnw pan fyddant yn gadael. Yna, y bore canlynol, byddwn yn adolygu’r hyn a gwblhawyd, ac yn cwblhau’r nodau ar gyfer y diwrnod gwaith.


Ble hoffech chi fynd o ran datblygu eich gyrfa?

Byddwn wrth fy modd yn bod yn gyfrifol am fy mhrosiect adeiladu fy hun un diwrnod. Ar hyn o bryd, rydw i’n gyfrifol am rai ardaloedd ar y safle, ond byddai’n wych ymhelaethu ar y profiadau hyn ac yna cael prosiect rheoli adeiladu rydw i’n gwbl gyfrifol amdano.


Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ym maes adeiladu?

Byddwn i’n dweud, ewch amdani! Fel gyda chymaint o swyddi adeiladu, mae cymaint o amrywiaeth a chymaint o wahanol rolau, fel bod rhywbeth i bawb. Fyddwch chi ddim yn cael teimlad go iawn o’r hyn mae’r swydd yn ei olygu a’r rolau eraill sydd ar gael nes i chi ddechrau gweithio mewn diwydiant, felly rhowch gynnig arni a chael blas go iawn arno.

Rhowch gynnig ar ein Cwis Personoliaeth i gael gwybod pa un o’r nifer o yrfaoedd adeiladu sy’n addas i chi