Facebook Pixel

Gosodwr gwasanaethau nwy

A elwir hefyd yn -

Peiriannydd gwasanaethau nwy, technegydd gwasanaethau nwy, peiriannydd gosod cyfarpar nwy, peiriannydd cynnal cyfarpar nwy

Mae gosodwr gwasanaethau nwy yn gosod, yn cynnal ac yn atgyweirio systemau nwy mewn hen adeiladau ac adeiladau newydd. Gall hyn gynnwys systemau gwres canolog neu gyfarpar nwy.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£30000

Oriau arferol yr wythnos

41-43

Sut i fod yn osodwr gwasanaethau nwy

Mae sawl ffordd o fod yn osodwr gwasanaethau nwy. Gallech chi gwblhau cwrs coleg, prentisiaeth, neu hyfforddiant yn y gwaith, neu wneud cais uniongyrchol i gyflogwr. 

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu. 

Coleg

Gallech gwblhau cwrs coleg fel Diploma Lefel 2 mewn Plymio a Gwresogi, Diploma Lefel 3 mewn Gosod Cyfarpar Nwy Naturiol Domestig neu Ddiploma Lefel 3 mewn Defnyddio, Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Nwy.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Prentisiaeth

Mae prentisiaeth gyda chwmni gwasanaethau nwy yn ffordd dda i ymuno â’r diwydiant. 

Gallech chi gwblhau uwch brentisiaeth mewn peirianneg nwy i ddod yn osodwr gwasanaethau nwy.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un dros 16 oed. Fel prentis, bydd eich cwmni’n eich cyflogi’n llawn, a bydd disgwyl i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Byddwch yn rhannu eich amser rhwng profiad yn y gwaith a’r coleg neu’r darparwr hyfforddiant.

Darganfyddwch beth yw'r gofynion mynediad lle rydych chi'n byw.

Gwaith

Os oes gennych chi brofiad perthnasol mewn plymio neu wresogi, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gwmni gwasanaethau nwy i gael profiad fel gosodwr gwasanaethau nwy. Gallech chi ddechrau arni fel cynorthwyydd i osodwr gwasanaethau nwy mwy profiadol a symud ymlaen wrth i’ch galluoedd wella.

Efallai y byddwch yn gallu cael asesiad o’ch profiad a’ch sgiliau drwy’r Cynllun Ardystio Achrededig i gael tystysgrif cymhwysedd cydnabyddedig.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gosodwr gwasanaethau nwy. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Dyma rai o’r sgiliau ychwanegol a allai fod o fudd i unrhyw un sy’n ystyried swydd fel gosodwr gwasanaethau nwy: 

  • Gallu defnyddio, atgyweirio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Sylw i fanylion
  • Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid
  • Sgiliau meddwl yn ddadansoddol
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen.

Cymwysterau


Beth mae gosodwr gwasanaethau nwy yn ei wneud?

Fel gosodwr gwasanaethau nwy, byddwch yn gyfrifol am osod, cynnal ac atgyweirio systemau nwy mewn amrywiaeth o adeiladau. Gall hefyd fod gofyn i chi roi cyngor i gwsmeriaid, archebu cydrannau newydd a phrofi er mwyn sicrhau bod mesurau diogelwch yn cael eu cyflawni.

Mae swydd gosodwr gwasanaethau nwy yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Gosod cysylltiadau nwy newydd ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid
  • Newid safle’r pibellau nwy presennol er mwyn ymgymryd â gwaith ailddatblygu
  • Comisiynu neu ddatgomisiynu systemau nwy
  • Gweithio gyda chynlluniau a lluniadau technegol
  • Darparu ystod lawn o wasanaethau ar rwydweithiau dosbarthu gwasgedd isel a chanolig a rhwydweithiau trawsyrru gwasgedd uchel
  • Defnyddio’r technolegau a’r datblygiadau arloesol diweddaraf i ddarparu cyflenwad nwy diogel
  • Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch llym bob amser i fodloni safonau sy'n ofynnol yn genedlaethol.

Faint o gyflog allech chi ei gael fel gosodwr gwasanaethau nwy?

Mae’r cyflog disgwyliedig i osodwr gwasanaethau nwy yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall gosodwyr gwasanaethau nwy sydd newydd eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gosodwyr gwasanaethau nwy gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £30,000
  • Gall uwch osodwyr gwasanaethau nwy ennill mwy na £30,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i osodwyr gwasanaethau nwy: 

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Fel gosodwr gwasanaethau nwy, gallech chi ennill profiad a symud i faes peirianneg nwy, neu rolau goruchwylio a rheoli. 

Fel arall, gallech sefydlu eich busnes gosod cyfarpar nwy eich hun neu weithio fel ymgynghorydd hunangyflogedig.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gosodwr gwasanaethau nwy Gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid i osod cysylltiadau nwy newydd ac ymgymr...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Peiriannydd gwasanaethau adeiladu Mae peirianwyr gwasanaethau adeiladu yn gweithio gyda thimau adeiladu a chleient...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080