Facebook Pixel

Gweithredwr craen

A elwir hefyd yn -

Gyrrwr craen

Mae gweithredwyr craeniau yn gyfrifol am godi a symud deunyddiau o amgylch safle adeiladu mor ddiogel ac effeithlon â phosibl. Fel gyrrwr craen, byddai angen i chi allu meddwl yn ymarferol, a deall sut mae gyrru a chynnal a chadw peiriannau trwm.

Cyflog cyfartalog*

£17000

-

£35000

Oriau arferol yr wythnos

35-40

Sut mae dod yn weithredwr craen

Er nad oes angen cymwysterau ffurfiol i fod yn weithredwr craen, mae sawl llwybr y gallech ei ddilyn i'ch helpu i ddilyn yr yrfa hon. Gallech gwblhau cwrs coleg neu brentisiaeth neu wneud cais am waith yn uniongyrchol i gyflogwr.

Dylech ymchwilio i’r llwybrau hyn i fod yn weithredwr craen i weld pa un yw’r un iawn i chi. Er bod gofynion penodol o ran cymwysterau ar gyfer rhai o’r opsiynau hyn, mae gan lawer o gyflogwyr fwy o ddiddordeb mewn pobl sy’n frwdfrydig, sy’n barod i ddysgu ac sy’n gallu dilyn cyfarwyddiadau.

Efallai y bydd angen cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) neu Gynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu (CPCS) arnoch i weithio ar safle adeiladu.

Coleg/darparwyr hyfforddiant

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i goleg/darparwr hyfforddiant arbenigol i hyfforddi fel gweithredwr craen. Gallech gwblhau cymhwyster, fel Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithrediadau Peiriannau. Gwneir hyn fel arfer fel rhan o drefniadau dysgu yn y gwaith fel un o gyflogeion y cwmni.

Bydd angen i chi gael 4 - 5 TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C), neu gymhwyster cyfatebol, gan gynnwys Saesneg a mathemateg.

Prentisiaeth

Gallech gwblhau prentisiaeth ganolradd technegydd codi gyda chwmni adeiladu i ddechrau eich gyrfa fel gweithredwr craen.

Bydd angen cymwysterau TGAU arnoch, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, ar gyfer prentisiaeth ganolradd.

Gwaith

Gallech gael swydd fel labrwr safle adeiladu a chael profiad o ddefnyddio peiriannau trwm cyn hyfforddi fel gweithredwr craen.

Neu, gallech wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd fel gweithredwr craen a dysgu dan oruchwyliaeth gyrrwr craen profiadol. Efallai y bydd angen i chi gael cymwysterau TGAU ar raddau 9 i 4 (A* i C) mewn Saesneg a mathemateg, neu gymhwyster cyfatebol, i wneud hyn.

Profiad gwaith

Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn cael gwaith yn y diwydiant adeiladu. Gallech chi gael hyn yn yr ysgol, neu drwy weithio ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau gyda chwmni neu berthynas sy’n gweithio fel gweithredwr craen. Bydd darpar gyflogwyr bob amser yn falch o’ch gweld yn rhestru profiad gwaith ar eich CV.

Sgiliau

Mae’r sgiliau allweddol ar gyfer gweithredwr craen yn cynnwys:

  • Deall sut i ddefnyddio a chynnal a chadw peiriannau ac offer
  • Sgiliau da o ran gweithio mewn tîm
  • Amynedd a’r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd llawn straen
  • Sylw i fanylion
  • Ymwybyddiaeth ofodol dda.

Beth mae gweithredwr craen yn ei wneud?

Fel gweithredwr craen byddwch yn gyfrifol am ddefnyddio, rheoli, a chynnal a chadw craeniau yn ddiogel.

Mae swydd gweithredwr craen yn cynnwys y dyletswyddau canlynol: 

  • Cynnal archwiliadau diogelwch ar beiriannau bob dydd
  • Gosod craeniau a’u defnyddio
  • Symud deunydd o gwmpas y safle yn unol â chynllun neu raglen
  • Monitro sefydlogrwydd craeniau a phwysau llwythi
  • Gweithio gyda banciwr i sicrhau diogelwch ar y safle
  • Gwneud mân atgyweiriadau i beiriannau
  • Rhoi gwybod i’r goruchwyliwr am unrhyw broblemau
  • Cadw cofnod o'r deunyddiau rydych chi wedi’u symud
  • Sicrhau bod llwybrau teithio yn glir
  • Gweithio ar y safle, dan amodau swnllyd.


Faint o gyflog allech chi ei gael fel gweithredwr craen?

Mae’r cyflog disgwyliedig i weithredwr craen yn amrywio wrth i chi gael mwy o brofiad.

  • Gall hyfforddeion a gweithredwyr craen sydd newydd gael eu hyfforddi ennill £17,000 - £20,000
  • Gall gweithredwyr craen hyfforddedig gyda pheth brofiad ennill £20,000 - £35,000
  • Gall uwch weithredwyr caren ennill mwy na £35,000.*

Mae’r oriau a’r cyflog yn dibynnu ar y lleoliad, y cyflogwr ac unrhyw oramser y byddwch yn ei wneud.

* Mae cyflogau wedi’u casglu o sawl ffynhonnell o’r diwydiant


Swyddi

Edrychwch ar y swyddi gwag diweddaraf i weithredwyr craen:

Gan mai gwefannau allanol yw'r rhain, efallai y bydd nifer y swyddi gwag sy'n berthnasol i'r rôl o'ch dewis yn amrywio. Bydd cyfleoedd newydd yn cael eu cyhoeddi wrth iddynt godi.

Llwybr gyrfa a chamu ymlaen

Wrth i chi gael mwy o brofiad yn eich swydd fel gweithredwr craen, gallech symud ymlaen i fod yn oruchwyliwr craen neu’n fanciwr/slingiwr. Gallech gwblhau NVQ Lefel 3 neu 4 mewn Gweithrediadau Codi yn y gwaith i wella eich rhagolygon gwaith.

Fel arall, gallech symud i rôl uwch fel fforman neu reolwr safle a chymryd cyfrifoldeb dros oruchwylio gwaith a wneir ar safle adeiladu.

Cyfleoedd datblygu

Edrychwch ar y cyfleoedd camu ymlaen isod

  • Y rôl hon Gweithredwr craen Gweithredu amrywiaeth o beiriannau i godi a symud deunyddiau’n ddiogel, gallwch ...
    Darllenwch fwy
  • Y rôl hon Goruchwyliwr craen I’r rhai sy'n dymuno gweithio fel rhan o dîm, mae goruchwylwyr craen yn goruchwy...
    Darllenwch fwy
Dyluniwyd y wefan gan S8080